Chwaraewr tenis o'r Swistir, yw Roger Federer (/ˈɹɑ.dʒər ˈfɛ.dər.ər/) (ganwyd 8 Awst, 1981).
Cred llawer y gall fod y chwaraewr gorau erioed.
Gwlad | Y Swistir | |
Cartref | Wollerau, y Swistir | |
Dyddiad Geni | 8 Awst 1981 | |
Lleoliad Geni | Binningen, y Swistir | |
Taldra | 1.85 m | |
Pwysau | 85 kg | |
Aeth yn broffesiynol | 1998 | |
Ffurf chwarae | Dde; Gwrthlaw unlaw | |
Arian Gwobr Gyrfa | $123,468,993 | |
Senglau | ||
Record Gyrfa: | 1200–263 (82.02%) | |
Teitlau Gyrfa: | 101 | |
Safle uchaf: | 1 (2 Chwefror 2004) | |
Canlyniadau'r Gamp Lawn | ||
Agored Awstralia | enillwr (2004, 2006, 2007, 2010, 2017, 2018) | |
Agored Ffrainc | enillwr (2009) | |
Wimbledon | enillwr (2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2009, 2012, 2017) | |
Agored yr UD | enillwr (2004, 2005, 2006, 2007, 2008) | |
Parau | ||
Record Gyrfa: | 129-89 | |
Teitlau Gyrfa: | 8 | |
Safle uchaf: | 24 (9 Mehefin 2003) | |
Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 5 Mai 2019. |
Mae wedi ennill 20 teitl Camp Lawn sengl, 6 teitl Cwpan y Meistri Tenis, a 28 o deitlau Cyfres y Meistri ATP. Yn 2004, ef oedd y cyntaf ers Mats Wilander yn 1988 i ennill y pedwar twrnamaint sengl Camp Lawn i ddynion yn yr un flwyddyn: Pencampwriaeth Agored Awstralia, Wimbledon, Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau a Pencampwriaeth Agored Ffrainc. Yn 2006, ailadroddodd y gamp hon, a'r unig ddyn erioed i ailadrodd y gamp yma a'r dyn cyntaf yn yr oes agored i ennill o leiaf deg pencampwriaeth sengl dair blynedd yn ddilynol (2004 i 2006). Ef hefyd yw'r unig chwaraewr sydd wedi ennill teitlau senglau Wimbledon a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau dair mlynedd yn ddilynol (2004 i 2006). Yn 2007, pan enillodd Federer ei drydedd teitl Pencampwriaeth Agored Awstralia, daeth yn unig chwaraewr gwrywaidd i ennill tri thrnamaint Camp Lawn ar wahân tair gwaith.
Mae Federer wedi dal safle uchaf chwaraewyr dethol y byd ers 2 Chwefror, 2004, ac yn dal y record am y mwyaf o wythnosau dilynol fel y chwaraewr gwrywol gyda'r safle uchaf. Ar 2 Ebrill, 2007, cafodd ei enwi fel Chwaraewr Byd-eang Laureus y Flwyddyn am drydedd dro dilynol, sef record. Ar 8 Gorffennaf, 2012, enillodd Wimbledon am y saithfed tro, ac felly daeth i ddal record hafal â Pete Sampras.
Cafodd Federer ei eni yn Basel, yn fab i Robert Federer o Berneck a Lynette Federer (née Durand), o Dde Affrica. Priododd y chwaraewr tenis Miroslava Vavrinec yn 2009. Mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.
Safleoedd chwaraeon | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Andy Roddick Rafael Nadal | Rhif 1 y Byd 2 Chwefror 2004 – 18 Awst 2008 6 Gorffennaf 2009 - 7 Mehefin 2010 | Olynydd: Rafael Nadal Rafael Nadal |
Gwobrau | ||
Rhagflaenydd: Arnaud Di Pasquale | Pencampwr Iau'r Byd ITF 1998 | Olynydd: Kristian Pless |
Rhagflaenydd: Simon Ammann | Chwaraewr Swisaidd y Flwyddyn 2003 – 2004 | Olynydd: Thomas Lüthi |
Rhagflaenydd: Andy Roddick | Pencampwr y Byd ITF 2004-05-06-07 | Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: Andy Roddick | Chwaraewr y Flwyddyn ATP 2004-05-06-07 | Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: Thomas Lüthi | Chwaraewr Swisaidd y Flwyddyn 2006-07 | Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: Andy Roddick | Chwaraewr Tenis Gwrywol Gorau ESPY 2005-06-07 | Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: Michael Schumacher | Chwaraewr Byd-eang Laureus y Flwyddyn 2005-06-07-08 | Olynydd: deiliad |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Roger Federer, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.