Ysgol uwchradd gyfun gymunedol ddwyieithog ym Mangor yw Ysgol Tryfan.
Ysgol Tryfan | |
---|---|
Arwyddair | Cefnogi. Ysbrydoli. Yn Deulu. |
Sefydlwyd | 1978 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Dr Geraint Jones |
Dirprwy Bennaethiaid | Mari James |
Paul Harris | |
Lleoliad | Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2TU |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Staff | 49 |
Disgyblion | 430 (2018) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Gwefan | http://www.ysgoltryfan.org/ |
Sefydlwyd yr ysgol ar safle'r hen Ysgol Sirol i Enethod ym 1978 fel ysgol gyfun gyfrwng Cymraeg i gylch Bangor. Lleolir yr ysgol ar safle flaenorol Ysgol Ramadeg y Merched, ar Lôn Powys yn ardal Maes Tryfan, heb fod ymhell o Benrhosgarnedd, a thua milltir o ganol Dinas Bangor.
Yn 1971, cyfunwyd tair ysgol uwchradd at ei gilydd - Ysgol Friars, Ysgol Sirol y Genethod (sef ysgol ramadeg arall), ac ysgol Deiniol (ysgol eilradd fodern gymysg). Sefydlwyd yr ysgol i ddechrau ar dri safle. Defnyddiwyd safle hen ysgol y genethod (safle Tryfan) fel ffrwd iaith Gymraeg i’r blynyddoedd isaf, a hen adeilad Friars (safle Ffriddoedd) fel ffrwd iaith Saesneg i’r blynyddoedd isaf. Daeth y blynyddoedd uwch at ei gilydd mewn adeiladau newydd a adeiladwyd am £300,000 ar safle newydd yn Eithinog.
Cafwyd ail-drefnu pellach ym 1978. Gwahanwyd y ffrwd iaith Gymraeg i ffurfio ysgol 11-18 newydd, Ysgol Tryfan, ar safle Lôn Powys.
Yn ystod adroddiad Estyn 2001, roedd tua 430 o ddisgyblion. Erbyn 2007, roedd hyn wedi gostwng i gyfanswm o 370, 300 ym mlynyddoedd 7 i 11 gyda 70 ychwanegol yn y chweched ddosbarth. Daeth 46% ohonynt o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith a 25% o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, a 29% o deuluoedd dwyieithog. Siaradai 96% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf, cynnydd o 6% ers 2001. Yn adroddiad Estyn 2013, roedd 524 o ddisgyblion yn cynnwys 86 yn y chweched dosbarth. Daeth 64% ohonynt o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad.
Mae Ysgol Tryfan yn aelod o gonsortiwm ysgolion uwchradd Arfon a Choleg Menai, sy'n darparu cyrsiau ychwanegol i ddisgyblion blynyddoedd 10 i 13 (cyfnod TGAU a'r chweched ddosbarth), megis cyrsiau galwedigaethol cynnal, gofal anifeiliaid bychan a chadw cerbyd a thrin gwallt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Tryfan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.