Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ar gyfer bechgyn yn y Barri, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun y Barri (Saesneg: Barry Comprehensive School).
Lleolir yr ysgol gyferbyn a Highlight Park yng ngogledd y dref. Mae ysgol ferched Ysgol Gyfun Bryn Hafren yn bartner i'r ysgol, ac yno darparir chweched dosbarth cyd-addysgol ar gyfer y ddwy ysgol.
Ysgol Gyfun y Barri | |
---|---|
Barry Comprehensive School | |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | David Swallow OBE |
Lleoliad | Port Road West, Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, CF62 8ZJ |
AALl | Bro Morgannwg |
Rhyw | Bechgyn |
Oedrannau | 11–18 |
Gwefan | http://www.barrycomp.com |
Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar un safle ers 2000, ond ymestynwyd a datblygwyd hi gryn dipyn.
Derbyniodd yr ysgol asesiad gyffredinol Gradd 1 gan Estyn yn 2007, sef y raddfa uchaf. Disgrifiwyd hi fel "ysgol dda gyda nodweddion rhagorol sy'n mynd o nerth i nerth dan arweinyddiaeth ei phennaeth, David Swallow". Yng ngwanwyn 2006 enwyd Ysgol Gyfun y Barri, am y trydydd blwyddyn yn ganlynol, fel yr ysgol oedd wedi gwella fwyaf yng Nghymru.
Derbyniodd y prifathro, David Swallow, OBE ym mis Mehefin 2003, am ei gyfraniad i addysg.
Roedd yr ysgol un un o'r sawl a ddewiswyd i fod yn rhan o gynllun peilot Bagloriaeth Cymru. Mae'r ysgol wedi cyflwyno cynllun mentora rhifyddeg, ar gyfer bechgyn blwyddyn 8, gyda staff gwaith cemegon Dow Corning gerllaw.
Mae Ysgol Gyfun y Barri wedi ei efeillio gyda De Soysa Vidyalaya Moratuwa yn Sri Lanca.
Sefydlwyd partneriaeth datblygu rhwng yr ysgol a C.P.D. Tref y Barri yn 2004.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Gyfun y Barri, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.