Penrhyn mwyaf deheuol De America yw'r Horn ( 55° 58' 48 lledred deheuol, 67° 17' 21 hydred gorllewinol).
Y bobl cyntaf i hwylio rownd yr Horn oedd Willem Cornelis Schouten a Jacob Le Maire, morwyr o'r Iseldiroedd, ar 26 Ionawr, 1616, ac felly fe'i enwyd ar ôl y dref lle ganwyd Schoutens, Hoorn yn yr Iseldiroedd.
Math | pentir |
---|---|
Enwyd ar ôl | Hoorn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Magellan and the Chilean Antarctic Region, Cabo de Hornos, Talaith Antártica Chilena |
Gwlad | Tsile |
Gerllaw | Drake Passage |
Cyfesurynnau | 55.98°S 67.289167°W |
Dydy'r Horn ddim ar gyfandir De America ei hun ond ar Ynys Hornos sydd yn perthyn i Tierra del Fuego. Penrhyn mwyaf deheuol y cyfandir ei hun yw gorynys Brunswick sydd tua 260 km i'r gogledd.
Cyn adeiladu Camlas Panamá (agorwyd ym 1914) yr oedd rhaid fynd o gwmpas yr Horn pan yn teithio o Gefnfor Iwerydd i'r Cefnfor Tawel - neu i'r gwrthwyneb - ar long, heblaw am fynd o gwmpas Penrhyn Gobaith Da ac Asia. Beth bynnag, roedd hwylio rownd yr Horn yn beryglus iawn am fod y gwynt o'r gorllewin yn cryf iawn a'r tonnau yn uchel ac felly roedd pawb yn ei ofni, yn bennaf pan yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin. Roedd llawer o longau yn hwylio trwy Gulfor Magellan i'r gogledd, rhwng ynysoedd Tierra del Fuego a'r tir mawr, i osgoi'r Horn, ond roedd hwylio trwy'r culfor yn cymryd llawer mwy o amser.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Horn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.