Mewn ffiseg niwclear a chemeg niwclear, math o adwaith niwclear ydy ymholltiad niwclear.
Mae cnewyllyn yr atom yn hollti'n rhannau llai, ysgafnach gan ryddhau niwtronau a phrotonau rhydd a elwir yn belydr gamma. Mae ymhollti elfennau trwm yn rhyddhau peth wmbredd o ynni ar ffurf egni electromagnetig ac egni cinetig.
Mae ymhollti niwclear yn creu ynni niwclear ac i'w ganfod oddi mewn i arfau niwclear ar ffurf ffrwydriad. Mae'r ddau yma'n digwydd pan fo rhai deunyddiau a elwir yn danwydd niwclear yn mynd drwy'r weithred yma o ymhollti pan cânt eu taro gan y niwtronau rhydd yma, gan greu rhagor o niwtronau wrth iddyn nhw dorri i fyny'n ddarnau llai. Caiff y broses hon ei hailadrodd dro-ar-ôl-tro ar ffurf adwaith cadwyn sy'n rhyddhau gwres y gellir ei harneisio neu ei ffrwyno a'i reoli mewn adweithydd niwclear neu'n gyflym ac ar raddfa na ellir ei reoli mewn bom atomig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ymholltiad niwclear, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.