Llysieuyn rhinweddol ydy'r wermod lwyd sydd hefyd yn cael ei alw'n chwerwlys (Lladin: Artemisia absinthium, Saesneg: (Common) Wormwood).
Wermod Lwyd | |
---|---|
Y wermod lwyd (Artemisia absinthium) yn tyfu'n wyllt yn Rwsia | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Artemisia |
Rhywogaeth: | A. absinthium |
Enw deuenwol | |
Artemisia absinthium L. |
Daw'r gair "wermod" o'r gair Saesneg "wormood" a defnyddiwyd y gair Cymraeg "wermod lwyd" yn gyntaf yn yr 16g "haner dyrned o'r wermod lwyd..." (WLB). Mae'r coesynnau'n tyfu'n syth fel saeth - rhwng 0.8 a 1.2 metr o uchder a'r rheiny mewn traws-doriad ar siâp pedol, wedi'u canghennu ac yn wyrdd-arian o ran lliw, yn y rhan uchaf ac yn wyn oddi tano. Mae'r dail wedi'u gosod ar sbiral a gall y dail ar waelod y planhigyn fod cyhyd â 25 cm o ran hyd.
Yn sicr, mae'r wermod lwyd angen tir sych a hynny yn llygad yr haul - a chyda digonedd o nitrogen yn y pridd.
Daw'r gair o'r Saesneg Canol, "wormwode" neu "wermode" gan iddo gael ei ddefnyddio yn yr oes honno ar gyfer llyngir (y rhan "worm" o'r gair); yr un ydyw, mewn gwirionedd, â'r gair modern "Vermouth".
Drwy ferwi'r dail, ceir hylif eithaf cryf sy'n cael ei ddefnyddio i gadw pryfaid i ffwrdd. Caiff hefyd ei ddefnyddio fel planhigion cynorthwyol i'w dyfu ar ymyl y prif gnwd er mwyn cadw trychfilod i ffwrdd. Fe'i defnyddir i roi blas ar "liquor absinthe" ac i roi blas ar winoedd ac ati. Arferid ei ddefnyddio yn y canol oesoedd i roi blas ar fedd (ee "meddyglyn").
Caiff ei ddefnyddio heddiw (ac ers canrifoedd yng Nghymru) fel tonic, ar gyfer anhwylderau'r stumog (diffyg traul), gwrthseptig ayb.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wermod Lwyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.