Dylunydd ffasiwn a dynes busnes o Saesnes oedd Vivienne Westwood (8 Ebrill 1941 – 29 Rhagfyr 2022).
Roedd hi'n gyfrifol yn bennaf am ddod â ffasiwn pync a 'thon newydd' i'r prif lif.
Vivienne Westwood | |
---|---|
Ganwyd | Vivienne Isabel Swire 8 Ebrill 1941 Tintwistle |
Bu farw | 29 Rhagfyr 2022 Clapham, Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, dylunydd ffasiwn, person busnes, dylunydd gemwaith, ymgyrchydd |
Blodeuodd | 2020 |
Cyflogwr | |
Mudiad | pync gwrthsefydliad, New Romantic |
Priod | Derek Westwood, Malcolm McLaren, Andreas Kronthaler |
Plant | Joseph Corré |
Gwobr/au | British Fashion Awards, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant, Berliner Bär, European Cultural Award |
Cafodd ei sylw gyntaf am greu dillad i siop "SEX" Malcolm McLaren ar King's Road, Llundain. Roedd y cydweithrediad rhwng y ddau yn llwyddiannus a dylanwadol yn enwedig eu cyfuniad o ddillad a cherddoriaeth, gan fandiau fel Sex Pistols.
Ers hynny agorodd Westwood sawl siop a cefnogodd achosion gwleidyddol trwy ei gwaith gan gynnwys CND, mudiadau yn erbyn newid hinsawdd a mudiadau hawliau sifil.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Vivienne Westwood, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.