Mae Neuadd Dinas Sarajevo, a elwir yn Vijećnica, yn ninas Sarajevo yn Bosnia Herzegovina.
Fe'i cynlluniwyd ym 1891 gan y pensaer Tsiec Karel Pařík, ond rhoddodd y gorau i weithio ar y prosiect wedi iddo dderbyn beirniadaeth gan y gweinidog, Y Barwn Benjamin Kallay. Y Vijećnica oedd yr adeilad mwyaf ei faint a'r mwyaf cynrychiadol o gyfnod Awstria-Hwngari yn Sarajevo ac fe'i defnyddiwyd fel neuadd y ddinas. Ailagorwyd yr adeilad ar 9 Mai 2014.
Cafodd Alexander Wittek, a weithiodd ar y prosiect ym 1892 ac 1893, ei daro'n wael a bu farw ym 1894 yn Graz, a chwblhawyd y gwaith gan Ćiril Iveković. Cafodd yr adeilad ei godi fel cyfuniad o arddulliau eclectigiaeth hanesyddol, yn bennaf ar ffurf ffug-Moorish, gan fod y ffynonellau ar gyfer yr arddull i'w canfod yng nghelf Islamaidd Sbaen a Gogledd Affrica.
Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym 1892 ac fe'u cwblhawyd ym 1894, ar gost o 984,000 krone, gyda 32,000 krone ar gyfer gosodion. Fe'i hagorwyd yn ffurfiol ar 20 Ebrill 1896, a'i drosglwyddo i Awdurdod y Ddinas, a fu'n defnyddio'r adeilad tan 1949, pan gafodd ei drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Bosnia a Herzegovina.
Ar 25 Awst 1992, dinistrwyd y Llyfrgell yn llwyr yn ystod Gwarchae Sarajevo; ymhlith y colledion roedd tua 700 o lawysgrifau ac incunabwlwm a chasgliad unigryw o gyhoeddiadau cyfresol Bosnia, rhai ohonynt o ganol adfywiad diwylliannol Bosnia yn y 19g. Cyn yr ymosodiad, roedd daliadau'r llyfrgell yn cynnwys 1.5 miliwn o gyfrolau a thros 155,000 o lyfrau a llawysgrifau prin. Ceisiodd rhai dinasyddion a llyfrgellwyr arbed rhai llyfrau tra oedd saethwyr cudd yn tanio atynt, a bu farw o leiaf un person.
Ni ellid achub mwyafrif y llyfrau o'r fflamau. Y bwriad oedd i waith atgyweirio strwythurol yr adeilad gael ei wneud mewn pedwar cam: 1996-1997 (a ariannwyd gan rodd gan Weriniaeth Awstria), a 2000-2004 (a ariannwyd gan rodd gan y Comisiwn Ewropeaidd, a dinas Barcelona ymysg eraill). Daeth y trydydd cam i ben ym mis Medi 2012, gydag amcangyfrif o'r gost yn CM 4.6 miliwn (tua €2.37 miliwn) gan ddychwelyd neuadd y ddinas i'w hen ogoniant. Dechreuodd y pedwerydd cam ar ôl cwblhau'r trydydd cam a pharhaodd tua 20 mis, gan orffen ar ddiwedd 2013 a'r gost o KM 14 miliwn (tua €7.23 miliwn) a sicrhawyd drwy'r IPA. Yn y cam hwn, adeiladwyd ac adferwyd y tu mewn (paentiadau, cerfluniau, llyfrau), sy'n golygu bod yr adeilad yn dod yn ôl i'w swyddogaeth. Mae popeth a oedd yn bosibl ei adfer wedi cael ei wneud, tra bod y pethau hynny nad oedd modd eu hachub wedi cael eu gwneud o'r newydd drwy fowldiau arbennig. Rhagwelwyd y byddai'r broses ailadeiladu ac adfer gyfan yn costio tua KM 25 miliwn (tua €13 miliwn).
Ar ôl blynyddoedd o adfer, ailagorwyd yr adeilad ar 9 Mai 2014 gyda pherfformiad Cerddorfa Ffilharmonig Sarajevo a Vedran Smailović.
Mae'r adeilad bellach yn heneb genedlaethol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau. Defnyddir ei ofod ar gyfer digwyddiadau protocol amrywiol ar gyfer pob lefel o lywodraeth, cyngherddau ac arddangosfeydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Vijećnica, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.