Mae tyrbin gwynt yn ddyfais i droi'r ynni cinetig a geir yn y gwynt yn ynni mecanyddol.
Defnyddiwyd y felin wynt mor bell yn ôl â 200 C.C.C yn Iran. Os yw'r ynni mecanyddol yma yn cael ei ddefnyddio yn uniongyrchol, er enghraifft i weithio pwmp neu i droi cerrig melin i falu ŷd, gelwir y ddyfais yn felin wynt. Y defnydd mwyaf cyffredin ar dyrbin gwynt heddiw yw i gynhyrchu trydan, a chyda'r pwyslais ar gynhyrchu trydan mewn dulliau nad yw'n ychwanegu at gynhesu byd-eang, mae'r defnydd o'r rhain wedi ehangu yn fawr.
Maent hefyd wedi creu llawer o ddadlau, gyda gwrthwynebiad cyhoeddus mawr i rai o'r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol, un ai bod y gwrthwynebwyr yn ystyried eu bod yn difetha harddwch naturiol yr ardal neu am eu bod yn medru lladd cryn nifer o adar. Y duedd yn ddiweddar yw eu lleoli yn y môr yn weddol agos i'r arfordir. Cynllun o'r fath yw fferm wynt arfaethedig Gwynt y Môr, oddi ar arfordir gogledd Cymru, sydd wedi ennyn ymateb beirniadol a gwrthwynebiad ffyrnig gan rai.
Dau fath sydd mewn gwirionedd: yr echel llorweddol a'r echel fertig, ond ceir dau fath fertig, sef y VAWT Savonius, HAWT tal a'r VAWT Darrieus. Y math fertig ydy'r math hynaf a'r mwyaf poblogaidd, bellach.
Mae gan yr Enercon E-126 y gallu i greu 7.58 MW, o drydan; mae'n 198 m (650 tr) o uchder gyda diamedr o 126 m (413 tr). Hwn ydy'r tyrbin cryfaf yn y byd. Fe'i lansiwyd yn 2007.
Defnyddiodd James Blyth felin wynt fertig i greu trydan ar gyfer ei dy haf yn yr Alban yn 1891.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tyrbin gwynt, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.