Beirdd a gyfansoddai ganeuon yn Ocsitaneg yn ystod yr Oesoedd Canol mewn llysoedd ar draws Ewrop ond yn bennaf yn ne Ffrainc oedd y trwbadwriaid (Ocsitaneg: trobadors).
Roedd y trwbadwriaid ymhlith y cyntaf i feithrin y ffenomen lenyddol a elwir yn gyffredinol 'serch llys' (Ocsitaneg: fin' amor). Mae tua hanner y 2,600 o ganeuon y trwbadwriaid sydd ar glawr yn cansos, sy'n canu clodydd merched. Mae'r genres eraill yn cynnwys cerddi dychanol a gwleidyddol (sirventés) a galarnadau ar gyfer noddwyr (planhs). Mae enwau rhyw 460 o drwbadwriaid yn hysbys. Roedd rhai, fel y trwbadŵr hysbys cyntaf, Guilhem de Peitieus (1071-1126), yn uchelwyr, ond daeth lleill, gan gynnwys Bernart de Ventadorn (tua 1135-1195), o dras werinol. Mae nifer o ganeuon gan trwbadwriaid benywaidd (trobairitz) wedi goroesi hefyd. Dechreuodd canu'r trwbadwriaid edwino yn Ocsitania wedi'r Groesgad yn erbyn yr Albigensiaid (1209-1229) ond erbyn hynny roeddent wedi gadael marc annileadwy ar y dychymyg Ewropeaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Trwbadŵr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.