Dinas yn Oblast Samara, Rwsia, yw Tolyatti (Rwseg: Тольятти ), a adnabyddir mewn rhai ieithoedd fel Togliatti hefyd.
Saif ar lan Afon Volga. Poblogaeth: 719,632 (Cyfrifiad 2010).
Math | tref/dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Palmiro Togliatti |
Poblogaeth | 684,709 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Nikolay Rents |
Cylchfa amser | UTC+04:00, Amser Moscfa, Amser Samara, Amser Moscfa |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Okrug Dinesig Tolyatti |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 314.78 km² |
Uwch y môr | 90 metr |
Gerllaw | Afon Volga, Cronfa Kuybyshev |
Yn ffinio gyda | Ardal Stavropolsky, Zhigulyovsk, Sir Stavropolskiy |
Cyfesurynnau | 53.52°N 49.42°E |
Cod post | 445000–445999 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Tolyatti |
Pennaeth y Llywodraeth | Nikolay Rents |
Sefydlwydwyd gan | Vasily Tatishchev |
Cafodd ei sefydlu fel caer yn 1737 wrth yr enw Stavropol a ddaeth i'w galw yn Stavropol-ar-Volga (Ста́врополь-на-Во́лге, Stavropol-na-Volge) er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a dinas Stavropol.
Cafodd cronfa fawr Kuybyshev ei hadeiladu yn y 1950au gan foddi'r hen safle a chodwyd dinas newydd gerllaw. Yn 1964, ailenwyd y ddinas yn Tolyatti er anrhydedd i Palmiro Togliatti, ysgrifennydd hir dymor Plaid Gomiwnyddol yr Eidal.
Sefydlwyd ffatri ceir Lada yn Tolyatti sy'n cyflogi 110,000 mewn cydweithrediad gyda Fiat (ers 1970) a General Motors (ers 2001).
Ers hynny mae diwydiannau eraill wedi'i sefydlu, yn cynnwys gweithfeydd petrogemegol a chynhyrchu gwrtaith artiffisial. Mae gan y ddinas borthladd prysur ar Afon Volga.
Ceir tair prifysgol yn y ddinas, yn cynnwys Prifysgol Wladol Tolyatti (Тольяттинский государственный университет ТГУ).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tolyatti, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.