Almanaciwr Thomas Jones: Almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr

Almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr o Gymro oedd Thomas Jones (1 Mai 1648–6 Awst 1713).

Fe'i ganwyd ger Corwen yn 1648.

Thomas Jones
Almanaciwr Thomas Jones: Almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr
Ganwyd1 Mai 1648 Edit this on Wikidata
Corwen Edit this on Wikidata
Bu farw8 Awst 1713 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllyfrwerthwr, argraffydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata

Yn 1769 derbyniodd Letters Patent gan Gwmni y Stationers yn Llundain yn rhoddi iddo yr hawl i ysgrifennu, argraffu, a chyhoeddi almanac yn y Gymraeg. Cyhoeddodd Jones wedyn gyfres o 32 o almanaciau Cymraeg, a ynddangosodd yn flynyddol o 1680 hyd 1712.

Yn 1681 roedd ganddo siop yn Paul's Alley, Dinas Llundain. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddodd yn ystod ei gyfnod yn Llundain y mae

  • An Astrological Speculation Of the late Prodigy or ... Comet, or Blazing Star (1681)
  • Llyfr Plygain (1683)
  • Athrawiaeth i Ddysgu Ysgrifennu amriw fath ar ddwylo (1683)
  • Y Gwir er Gwaethed yw (1684), hanes y Cynllwyn Pabaidd
  • Llyfr Gweddi Gyffredin (1687)
  • Llyfr y Psalmau Edmwnd Prys (1687)
  • Y namynun-deugain Erthyglau Crefydd Eglwys Loegr (1688)
  • Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb (1688), sef geiriadur

Yn ogystal ag argraffu a chyhoeddi llyfrau yn Llundain roedd ganddo fusnes helaeth fel llyfrwerthwr, gydag asiantau yng Nghymru a'r Gororau.

Ar ryw adeg, ymsefydlodd yn Amwythig ac yno cyhoeddodd

  • Carolau a Dyriau Duwiol (1696)
  • Artemidorus: Gwir Ddeongliad Breuddwydion (1698)
  • Attebion i'r Hôll Wâg Escusion (1698)
  • Taith y Pererin (1699), cyfieithiad o The Pilgrim's Progress John Bunyan
  • Atcofiad o'r Scrythyr (1704)

Bu Thomas Jones farw yn Amwythig 6 Awst 1713.

Ffynonhellau

Tags:

1 Mai164817136 AwstAlmanacArgraffuCorwenCyhoeddi

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Bartholomew RobertsMathemateg gymhwysolElectrolytCod QRAni GlassGroeg (iaith)Y Rhyfel AthreuliolTŷ unnosJohn Beag Ó FlathartaHouse of DraculaHJoseff StalinLlofruddiaeth Stephen LawrenceRhys MwynCadwyn BlocIoga modern fel ymarfer corffGoogleMarie AntoinetteGwneud comandoTajicistanCOVID-19Dant y llew18 AwstHunan leddfuPuteindraCymdeithas Cerdd Dant CymruSir DrefaldwynStewart JonesTwo For The MoneySingapôrAffricaAfon CynfalDaearyddiaeth EwropCynnwys rhydd1 AwstBridgwaterBronStori Dylwyth Teg Tom BawdMynediad am DdimCodiadLlofruddiaethITunesEnfysCyfathrach Rywiol FronnolCyfieithu'r Beibl i'r GymraegYsgwydd y deGoogle TranslateSteve EavesLlywodraethArgae'r Tri CheunantFeneswelaDiwydiant rhywBizkaiaEroticaWinnebago ManWikipediaVicksburg, MississippiLleiddiadJustin TrudeauDre-fach FelindreLlawfeddygaethCwpan y Byd Pêl-droed 2022Corazon AquinoThe EconomistBoduanBonnes À TuerYr Emiradau Arabaidd UnedigFfôn symudolDerbyn myfyrwyr prifysgolionMicrosoft🡆 More