Dull o reoli amser yw Techneg Pomodoro, a ddatblygwyd gan Francesco Cirillo yn hwyr yn y 1980au.
Mae'r dechneg yn defnyddio amserydd i dorri gwaith i mewn i gyfnodau, 25 munud o hyd yn draddodiadol, gydag egwyl fach rhwng pob un. Pomodoro yw enw un cyfnod, sef y gair Eidaleg am domato, ar ôl yr amserydd cegin siâp tomato yr oedd Cirillo yn ei ddefnyddio fel myfyriwr. Mae'r dull yn seiliedig ar y syniad y gall egwylion cyson helpu gwella ystwythder y meddwl.
Mae Techneg Pomodoro yn debyg i gysyniadau megis blychau amser (timeboxing) a datblygiad iterus a chynyddol a geir wrth ddylunio meddalwedd. Defnyddir y dull mewn cyd-destunau o gydraglennu.
Chwe cham sydd gan y dechneg:
Mae cynllunio, dilyn eich cynnydd, prosesu a delweddu yn hanfodol i'r decheg. Wrth gynllunio, caiff tasgau eu blaenoriaethu drwy eu rhoi nhw ar restr "I'w Wneud Heddiw". Mae hyn yn helpu'r defnyddwyr i amcangyfrif faint o ymdrech fydd eisiau i gwblhau tasg. Mae pob pomodoro yn cael ei gofnodi wedi'i gyflawni, sy'n ychwanegu at y teimlad o lwyddiant ac yn rhoi data crai am hunan-arsylwi a gwella yn nes ymlaen.
At ddibenion y decheg, un cyfnod o waith yw pomodoro. Ar ôl cwblhau tasg, rhoddir unrhyw amser sbâr ar ôl i orddysgu. Ceir egwylion cyson, sy'n helpu cymhathu'r gwaith. Mae egwyl fer o 3–5 munud yn gwahanu pob pomodoro a cheir pedwar pomodoro mewn set gyfan. Daw egwyl fwy o 15–30 munud rhwng pob set.
Lleihau dylanwad pethau mewnol ac allanol sy'n dorri ar draws ffocws a llif yw nod Techneg Pomodoro. Ni ellir torri pomodoro yn gyfnodau llai. Pan ddaw rhywbeth i dynnu'r sylw yn ystod pomodoro, rhaid i hwnnw gael ei gofnodi a'i ohirio. Gwneir hyn drwy roi gwybod i'r un sy'n tynnu'ch sylw eich bod yn gweithio ar rywbeth, penderfynu pryd y gellwch chi ddod yn ôl ato/ati, rhoi'r amser hwnnw yn eich amserlen a mynd yn ôl at y person unwaith mae'ch pomodoro ar ben. Os nad oes modd gwneud hyn a pharhau gyda'r pomodoro, bydd rhaid rhoi'r gorau i'r pomodoro cyfan.
Roedd Cirillo a chefnogwyr yn mynnu peidio â defnyddio llawer o dechnoleg wrth ddilyn y dechneg. Amserydd mecanyddol, papur a phensil yw'r cyfan sydd eisiau. Mae gorfod weindio'r amserydd yn cadarnhau penderfyniad y defnyddiwr i ddechrau'r dasg; mae ticio yn dangos yr awydd i gwblhau'r dasg; mae'r canu yn datgan dechrau egwyl. Mae llif a ffocws yn dechrau cael eu cysylltu â'r ysgogiadau hyn.
Mae'r dechneg wedi ysbrydoli rhaglenni meddalwedd ar sawl platfform.
Enw | Platfform | Cyswllt | Disgrifiad |
---|---|---|---|
Increaser | web | https://increaser.org | Amserydd Pomodoro am ddim gyda rhyngwyneb braf. |
KanbanFlow | web | https://kanbanflow.com/ | Bwrdd Kanban gyda Pomodoro Timer. |
tomato.es | web | http://www.tomato.es/ Archifwyd 2018-12-25 yn y Peiriant Wayback. | Rheoli amserau a gweithgareddau gan ddefnyddio Technod Pomodoro. |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Techneg Pomodoro, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.