Canolfan celfyddydau, marchnad dan do a gofod cymunedol yng nghanol Wrecsam yw Tŷ Pawb.
Mae'n darparu arddangosfeydd, ardal fwyd, cyngherddau a digwyddiadau byw, yn ogystal â gofod marchnad ar gyfer masnachwyr lleol.
Math | oriel gelf, oriel gelf, canolfan siopa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0465°N 2.9909°W |
Cod post | LL13 8BB |
Agorwyd Tŷ Pawb yn 2018 ar safle hen Farchnad y Bobl ar Stryt Caer yng nghanol y ddinas, ar ôl ailddatblygiad mawr a enillodd medal aur mewn pensaernïaeth.
Mae gan safle'r ganolfan hanes hir fel marchnad. Cyn ei ailddatblygu yn 2017-2018, roedd Tŷ Pawb yn cael ei adnabod fel Marchnad y Bobl (Saesneg: People's Market). Adeiladwyd Marchnad y Bobl ar ddiwedd yr wythdegau ar ôl dymchwel yr hen Farchnad Lysiau a oedd yn sefyll ar y gyffordd rhwng Stryt y Syfwr â Stryt y Lampint.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tŷ Pawb, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.