Spectre yw'r bedwaredd ffilm ar hugain yng nghyfres ffilm James Bond.
Cynhyrchwyd y ffilm gan Eon Productions. Mae'n serennu Daniel Craig yn ei bedwerydd perfformiad fel James Bond, a Christoph Waltz fel Franz Oberhauser, dihiryn y ffilm. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Sam Mendes a dyma oedd yr ail ffilm Bond iddo gyfarwyddo ar ôl Skyfall. Ysgrifennwyd y ffilm gan Robert Wade, Neal Purvis a John Logan. Adrodda'r ffilm hanes cyfarfyddiad cyntaf Bond gydag asiantaeth troseddol byd-eang o'r enw SPECTRE, gan ddynodi ymddangosiad cyntaf yr asiantaeth hwn ers y ffilm Diamonds Are Forever yn 1971.
Poster cynnar | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Sam Mendes |
Cynhyrchydd | Michael G. Wilson Barbara Broccoli |
Ysgrifennwr | Neal Purvis Robert Wade John Logan |
Serennu | Daniel Craig |
Cerddoriaeth | Thomas Newman |
Sinematograffeg | Hoyte van Hoytema |
Golygydd | Lee Smith |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Eon Productions |
Dosbarthydd | Metro-Goldwyn-Mayer Columbia Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 26 Hydref 2015 (Deyrnas Unedig) |
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Rhagflaenydd | Skyfall |
Rhyddhawyd Spectre ar 26 Hydref 2015 yn y Deyrnas Unedig ar yr un noson a'r noson agoriadol yn Llundain, cyn rhyddhau'r ffilm yn fyd-eang ar 6 Tachwedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Spectre (ffilm 2015), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.