Uchelwr Cymreig a milwr ym myddin Harri VIII oedd Sion Trefor (hefyd John Trevor) a fu farw ym Mehefin 1589.
Roedd yn or-ŵyr i Syr Richard Trefor (fl. 1500), 4ydd mab John Trevor "hên" a'r 19eg yn ei ddisgyniad o dad i dad o Tudur Trefor (gw. Trevor, Brynkynallt), a gawsai'r ystad trwy briodas Mallt, aeres Dafydd ap Gruffydd, Allington (m. 1476 ). Yn 1574 roedd yn parhau i lynnu wrth grefydd Rhufain, er gwaethaf Diwygiad Protestannaidd Lloegr.
Sion Trefor | |
---|---|
Beddrod Sion yn Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd ger Wrecsam. | |
Ganwyd | Yr Orsedd |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1589, 1589 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | milwr |
Tad | John Trevor |
Mam | Ann Broghton |
Priod | Mary Bruges |
Plant | Sion Trevor, Richard Trefor, Sackville Trevor, Winifred Trevor, Thomas Trevor |
Mae Sion Trefor yn fwyaf nodedig, efallai, am godi Trefalun (neu Drefalyn) yn 1576, ym mhentref Yr Orsedd (Rossett) yn ardal Maelor, plasty enfawr ac am fod yn dad i rai o uchelwyr mwyaf pwerus gogledd-ddwyrain Cymru.
Bu'n ymladd yn rhyfeloedd Harri VIII yn Ffrainc, gyda theulu pwerus Sackville yn ei noddi.
Bu farw, fel y nodir ar ei gofeb yn "Lhundain" (Llundain) ond roedd wedi gorchymyn i'w gorff gael ei ddychwelyd i Faelor i'w gladdu gyda chyrff ei hynafiaid. Mae ei gofeb alabaster yn Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd, yn hynod a chain, gyda thestun uniaith Gymraeg yn nodi manylion ei fywyd a'i ddisgynyddion. Noda'r feddrodgre:
Blynyddoedd ei ieincktid a drosfwriodd ef yn Rhyveloedd Frainck dann Vrenin Henry 8. Ei ganol-fyd gyfoesodd ef yn ymdaith deirth-wledydd. Ei ddiwedd-oes a gartrefodd ef yn Llywodraeth a gwasanaeth ei enedigaeth wlad.
Ef a briododd Mary, merch George Bridges, Ysgweiar, ag a fu iddo o honi bump o veibion a dwy o verched, sef..
Ceir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sion Trefor (m. 1589), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.