Mae Shaheen tuma Jafargholi (ganed 23 Ionawr 1997) yn actor a chanwr Cymreig-Iranaidd o Abertawe, Cymru.
Daeth yn enwog ar ôl iddo ganu ar y gyfres deledu Britain's Got Talent yn y DU.
Shaheen Jafargholi | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1997 Abertawe, Cymru |
Label recordio | Island Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, canwr, actor teledu |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Rhieni Shaheen yw Karen Thomas, sy'n Gymraes, ac Iraj Jafargholi, ymgynghorydd cyfrifiadurol Iranaidd. Mae ei rieni wedi gwahanu. Roedd yn ddisgybl ym Ysgol Gymunedol Dylan Thomas a mynychodd Ysgol Berfformio Mark Jermin ar ddyddiau Sadwrn. Gwelwyd Jafargholi ar raglen ddogfen BBC Cymru o'r enw Starstruck a oedd yn dilyn hynt a helynt plant yr ysgol berfformio am chwe mis.
Chwaraeodd Jafargholi ran y cymeriad Troy (cymydog Jason) yn y gyfres deledu i blant Grandpa In My Pocket.. Mae ef hefyd wedi actio yn y rhaglen deledu Torchwood yn y rhifyn "Greeks Bearing Gifts", yn chwarae cymeriad Danny - plentyn y gwallgofddyn o dad yn ogystal â chymryd rhan yn y gyfres deledu meddygol Casualty, lle chwaraeodd rhan Christy Skinner, claf a oedd yn ddioddef o'r rhug. Aeth Jafargholi ar daith hefyd gyda "Thriller - Live" lle chwaraeodd rhan Michael Jackson ifanc.
Perfformiodd Jafargholi hefyd yng nghyngerdd deyrnged Michael Jackson yn Los Angeles ar y 7fed o Orffennaf, 2009.
Yn Ebrill 2016, cyhoeddwyd ei fod am ymuno â'r opera sebon Eastenders mewn rhan rheolaidd. Yn dilyn stori am droseddau cyllyll, bu farw ei gymeriad yn Mai 2018 wedi cael ei drywanu gan gang. Ar 1 Awst 2018, cyhoeddwyd y byddai'n ymuno â chast Casualty fel y nyrs Marty Kirkby.
Blwyddyn | Gwaith | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2004 | Casualty | Christy Skinner | Teledu; rhaglen "Inside Out" |
2006 | Torchwood | Danny | Teledu; rhaglen "Greeks Bearing Gifts" |
2009 | Grandpa in My Pocket | Troy | BBC; Rhan achlysurol |
2016–2018 | EastEnders | Shakil Kazemi | Rhan rheolaidd (159 pennod) |
2018- | Casualty | Marty Kirkby | Rhan rheolaidd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Shaheen Jafargholi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.