Mae Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol (Saesneg: Volunteer Gliding Squadron neu VGS) yn unedau ymarfer hedfan yn yr Awyrlu Brenhinol (Saesneg: Royal Air Force neu RAF) sy'n hyffordi cadetiaid awyr trwy ddefnyddio gleidrau milwrol y Viking T1 a'r Vigilant T1.
Mae'r 25 Sgwadron yn gweithio dan Rhif 3 Ysgol Gleidio Canolog yr Awyrlu Brenhinol yn Rhif 22 Grwp (Ymarfer) o'r Awyrlu Brenhinol. Mae'r 25 Sgwadron, a'r Ysgol Gleidio Canolog yn cael eu hadolygu bob blwyddyn gan yr Ysgol Hedfan Canolog.
Mae'r Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol yn cynnwys gwirfoddolwyr yn unig.
Mae Cadetiaid Awyr rhwng 13-18 oed yn derbyn hyfforddiant:
Cwrs Sefydlu Gleidio:
Cwrs Sefydlu Gleidio 1: Hedfan am 20 munud (neu 3 hedfaniad) i ddysgu "pitch" yr awyren
Cwrs Sefydlu Gleidio 2: Hedfan am 25 munud (neu 4 hedfaniad) i ddysgu "roll" yr awyren
Cwrs Sefydlu Gleidio 3: Hedfan am 30 munud (neu 5 hedfaniad) i ddysgu "yaw" yr awyren a "stall"
Ysgoloriaeth Gleidio:
Adenydd Glas: hedfan am 8 awr (neu 40 hedfaniad) i ddysgu popeth am hedfan yr awyren (yn gadael, hedfan yn syth, troi'r awyren, glanio, ac ati). Ar ôl iddo orffen y cwrs, bydd y cadet yn derbyn yr adenydd glas
Adenydd Arian: nifer o gadetiaid yn gorffen yr ysgoloriaeth gleidio ac yn symud ymlaen i hedfan ar ei ben ei hunan ac ennill y cyfle i dderbyn yr adenydd arian
Hyfforddiant Gleidio Uwch (adenydd aur): Ar ôl i gadetiaid orffen yr Ysgoloriaeth Gleidio, efallai bydd cyfleoedd am hyfforddiant gleidio drwy ymuno â'r sgwadron a gwella'u sgiliau.
Peilot Gradd:
Gradd 2: Peilot sy wedi pasio prawf ac wedi cymwyso i hedfan dan oruchwyliaeth
Gradd 1: Peilot sy'n gallu cario disgyblion ac yn gallu dysgu ar y Cyrsiau Sefydlu Gleidio
Hyfforddwyr:
Hyfforddwr B2: Hyfforddwr dan goruchwyliaeth sy'n gallu dysgu'r Ysgoloriaeth Gleidio
Hyfforddwr B1: Hyfforddwr profiadol
Hyffordwr A2/1: Hyfforddwr uwch
Cyfeiriadau
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sgwadron Gleidio Gwirfoddol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.