Gyrrwr rasio Fformiwla Un Almaenig yw Sebastian Vettel (ganed 3 Gorffennaf 1987).
Sebastian Vettel | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1987 Heppenheim (Bergstraße) |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym, motorsports competitor |
Taldra | 176 centimetr |
Pwysau | 62 cilogram |
Gwobr/au | German Sportspersonality of the Year, Silbernes Lorbeerblatt |
Gwefan | http://www.sebastianvettel.de/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Red Bull Racing, Scuderia Ferrari, BMW Sauber, Scuderia Toro Rosso, Aston Martin Racing |
Gwlad chwaraeon | yr Almaen |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Heppenheim. Ar hyn o bryd mae'n gyrru i dîm Ferrari. Mae ei gontract presennol yn rhedeg hyd o leia diwedd 2017. Mae Vettel wedi bod yn Bencampwr Byd Fformiwla Un bedwar gwaith, ar ôl ennill y bencampwriaeth rhwng 2010 a 2013 gyda thîm Red Bull Racing. Mae'n cael ei ystyried fel un o'r gyrwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes Fformiwla Un.
Yn ei flwyddyn cyntaf yn gyrru Red Bull yn 2009, gorffennodd Vettel y tymor fel y gyrrwr ieuengaf erioed i fod yn ail orau ym Mhencampwriaeth Gyrwyr y Byd. Y flwyddyn ganlynol, aeth ymlaen i fod y gyrrwr ieuengaf erioed i ennill Pencampwriaeth Gyrwyr y Byd yn 23 mlwydd oed. Yn yr un flwyddyn bu'n helpu Red Bull i ennill Pencampwriaeth Adeiladwyr Byd cyntaf y tîm. Dilynodd ei bencampwriaeth cyntaf gyda thri o deitlau mwy, gan ddod yn bencampwr ieuengaf yn y byd i fod yn bencampwr dwbl, triphlyg a pedwarplyg yn Fformiwla Un. Gadawodd Vettel Red Bull Racing a daeth ei gysylltiad hir-dymor i ben gyda'r cwmni ar ôl tymor 2014 a llofnododd gytundeb gyda Ferrari ar gyfer 2015, ar ôl gweithredu'r cymal i derfynu ei gontract Red Bull yn gynnar.
Mae Vettel mae wedi dal niferus o recordiau "ieuengaf" eraill yn Fformiwla Un, yn eu plith: y gyrrwr ieuengaf i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer swyddogol o Grand Prix (tan Max Verstappen yn y Grand Prix 2014 Japaneaidd), i sgorio pwyntiau pencampwriaeth (tan Daniil Kvyat yn Grand Prix 2014 Awstralia), i arwain mewn ras, i sicrhau'r y safle cyntaf ac i ennill ras. Yn 2016 roedd'n e'n dal y record am ennill y mwyaf o bwyntiau yn ei yrfa, gan drechu Fernando Alonso yn Grand Prix Eidal 2015. mae e hefyd yn bedwerydd ymysg y rhestr o enillwyr ras gorau erioed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sebastian Vettel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.