Diwynydd, darlithydd, bardd a chyn-Archesgob Caergaint rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012 yw'r Dr Rowan Douglas Williams (ganwyd 14 Mehefin 1950).
Rowan Williams | |
---|---|
Ganwyd | Rowan Douglas Williams 14 Mehefin 1950 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, gwleidydd, athro cadeiriol, offeiriad Anglicanaidd, bardd |
Swydd | Archesgob Caergaint, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, beirniad Gwobr Booker, Archesgob Cymru, Bishop of Monmouth, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Priod | Jane Williams |
Plant | Rhiannon Williams, Pip Williams |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Urdd Cyfeillgarwch, Cadwen Frenhinol Victoria, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal y Llywydd, prix Giles, Palestinian Bethlehem 2000 Award |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i deulu Cymraeg. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dinefwr, Abertawe, yng Ngoleg Crist, Caergrawnt, a Choleg Eglwys Crist a Coleg Wadham, Rhydychen, lle y cafodd ei ddoethuriaeth. Bu'n dysgu diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt.
Daeth yn Esgob Mynwy yn 1991, ac yn Archesgob Cymru yn 1999. Yn 2002 cyhoeddwyd ei fod i ddilyn George Carey fel Archesgob Caergaint, yn Eglwys Loegr, ac felly yn arweinydd y Gymuned Anglicanaidd fyd-eang, er yn dechnegol, nid oedd yn aelod o Eglwys Loegr, gan fod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu. Fe'i urddwyd ar yr 27 Chwefror 2003 a bu yn y swydd rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.
Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Rhagflaenydd: Alwyn Rice Jones | Archesgob Cymru 1999 – 2002 | Olynydd: Barry Cennydd Morgan |
Rhagflaenydd: George Leonard Carey | Archesgob Caergaint 2002 – 2013 | Olynydd: Justin Welby |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rowan Williams, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.