Brenin yr Alban o 1390 hyd ei farwolaeth oedd Robert III, brenin yr Alban (14 Awst 1337 – 4 Ebrill 1406).
Robert III, brenin yr Alban | |
---|---|
Ganwyd | c. 1330s Palas Scone |
Bu farw | 4 Ebrill 1406 o trawiad ar y galon Castell Rothesay |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | teyrn yr Alban |
Tad | Robert II, brenin yr Alban |
Mam | Elizabeth Mure |
Priod | Anabella Drummond |
Plant | David Stewart, Duke of Rothesay, Iago I, brenin yr Alban, Margaret Stewart, James Stewart of Kilbride, Sir John Stewart, Lady Elizabeth Stewart, Egidia Stewart, Lady Mary Stewart, Robert Stewart |
Llinach | y Stiwartiaid |
Cafodd ei eni fel John Stewart; roedd yn fab hynaf i Robert II ac Elizabeth Mure. Priododd Anabella Drummond yn 1367. Tua 1387 dioddefodd anafiad difrifol o ganlyniad i gic gan geffyl, a bu'n dioddef yr effeithiau am y gweddill o'i oes. Daeth yn frenin yr Alban ar farwolaeth ei dad yn 1390. Yn 1399, o ganlyniad i anabledd Robert, daeth ei fab hynaf, David Stewart, Dug Rothesay, yn llywodraethwr y deyrnas. Wedi ffrae rhwng Dug Rothesay a'i ewythr, Robert, dug Albany, bu farw Rothesay ym mis Mawrth 1402, dan amgylchiadau amheus.
Penderfynodd Robert III yrru ei fab arall, James, i Ffrainc er mwyn diogelwch, ond pan oedd ar y ffordd yno yn 1406, cipiwyd ei long gan y Saeson, a chadwyd James yn garcharor brenin Lloegr am 18 mlynedd. ywedir i Robert farw o dorcalon wedi cael y newyddion. Olynwyd ef gan James fel Iago I, brenin yr Alban, ond aeth blynyddoedd heibio cyn iddo gael ei ryddhau i'w goroni.
Rhagflaenydd: Robert II | Brenin yr Alban 1390 - 1406 | Olynydd: Iago I |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robert III, brenin yr Alban, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.