Cymro Americanaidd oedd Robert Everett (2 Ionawr, 1791 - 25 Chwefror 1875) a fu'n enwog yn ei ddydd am ei waith yn hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a chrefydd yn yr Unol Daleithiau ac yn enwedig am ei safiad cyhoeddus yn erbyn caethwasanaeth pobl dduon.
Yn 2022, yn dilyn gwaith ymchwil gan yr Americanwr Jerry Hunter, cafodd Everett ei dderbyn i'r National Abolition Hall of Fame and Museum yn Efrog Newydd oherwydd ei safiad yn erbyn caethwasanaeth.
Robert Everett | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ionawr 1791 Gronant |
Bu farw | 25 Chwefror 1875 Steuben County |
Dinasyddiaeth | Cymru - UDA |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, argraffydd |
Priod | Elizabeth Everett |
Ganed Robert Everett ym mhentref bychan Gronant, Sir y Fflint yn 1795; goruchwyliwr gwaith plwm oedd ei dad. Roedd hefyd yn aelod o eglwys Trelawnyd ac yn bregethwr cynorthwyol. Roedd taid Robert Everret (fel yr awgryma'r cyfenw) yn dod o'r Alban.
Fe'i ordeiniwyd yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, yn 1815. Fel nifer o'i gydwladwyr a geisiai fywyd gwell a'r rhyddid i addoli, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn ddyn ifanc. Derbyniodd alwad i ofalu am gapel Cymraeg yn Utica, Efrog Newydd, yn 1823 ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau gyda'i wraig Elizabeth a'u plant. Yn 1838 symudodd i Stueben, cymuned fechan y tu allan i Utica, lle bu'n weinidog ar ddau gapel: 'Capel Uchaf' a chapel 'Penymynydd' lle y bu hyd at ei farwolaeth yn 1875.
Daeth yn ffigur amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus y cymunedau Cymreig yn America ac ymroddodd i gynnal traddodiadau a llenyddiaeth y Cymry yn y wlad honno. Yn 1840 sefydlodd bapur newydd o'r enw Y Cenhadwr Americanaidd, misolyn a wasanaethai Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau. Defnyddiodd y cylchgrawn i ymosod ar gaethwasiaeth (neu 'gaethwasanaeth') gan annog Cymry America i ymuno yn yr ymgyrch. Cyhoedai'r papur o'i gartref, gyda'i feibion yn argraffu a'i wraig Elizabeth yn darllen a chywiro'r proflenni. Yn 1843 dechreuodd gyhoeddi'r Dyngarwr, misolyn arall a oedd yn erfyn a ganolbwyntiai ar y mudiad dirwestol, hawliau i ferched, heddychiaeth a'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.
Ond fe'i cofir yn bennaf yn yr Unol Daleithiau am ei ymgyrchu diflino, am dros ddeugain mlynedd, yn erbyn caethwasanaeth, a hynny ar adeg cyn Rhyfel Cartref America, pan fu hyd at tua pedair miliwn o bobl dduon mewn caethiwed ar blanhigfeydd y De. Cydweithiodd â diddymwyr caethwasiaeth yn Utica o ganol y 1830au ymalaen. Am dros chwarter canrif ymgyrchodd yn erbyn caethwasanaeth.
Ymunodd gyda'r Liberty Party yn gynnar yn y 1840au, gan gynddeiriogi'r Chwigiaid Cymreig a gredodd na ddylai gweinidog bregethu gwleidyddiaeth. Ar sawl achlysur, pan fyddai Robert Everett yn pregethu, taflai'r Chwigiaid Cymreig wyau a llyfrau emynau ato o oriel y capel! Yn 1856, sefydlwyd plaid newydd a gymerodd le'r hen Liberty Party, sef y 'Gweriniaethwyr', plaid wahanol iawn i'r blaid o'r un enw a geir heddiw. Roedd yn blaid radicalaidd a wrthwynebai ymestyn caethwasanaeth i daleithiau eraill, newydd. Yn 1856 trodd y rhan fwyaf o Gymry America i gefnogi'r Gweriniaethwyr. Erbyn hyn, gwelwyd Everett fel arweinydd moesol Cymry America, ac roedd yn uchel ei barch ac yn boblogaidd iawn.
Priododd Everett ag Elizabeth Roberts, merch Thomas ac Elizabeth Roberts, Rhos Fawr, Dinbych ym 1816, bu iddynt pum mab a chwe merch. Roedd Mrs Everett yn ymgyrchydd brwd dros achos dirwest, yn ymgyrchu yn erbyn caethwasanaeth ac yn ymgyrchydd dros y pwysigrwydd o roi addysg gyfartal i ferched.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robert Everett, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.