Roedd Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn (1737 - 21 Ionawr 1808) yn dirfeddiannwr, perchennog caethweision a'r gŵr cyntaf i ddatblygu diwydiant llechi Cymru ar raddfa fawr pan gychwynodd Chwarel y Penrhyn.
Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn | |
---|---|
Ganwyd | 1737 (yn y Calendr Iwliaidd) Gwynedd |
Bu farw | 21 Ionawr 1808 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Aelod o 12fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr |
Tad | John Pennant |
Mam | Bonella Hodges |
Priod | Anne Susannah Warburton |
Roedd y Pennantiaid o gyff Pennantiaid Bychtwn a Downing yn Sir Fflint. Bu Richard Pennant yn Aelod Seneddol dros Peterfield yn Lloegr o 1761 hyd 1767, yna'n un o Aelodau Seneddol Lerpwl 1767-1780, ac eto o 1784 hyd 1790, pan ildiodd ei sedd i Syr Banastre Tarleton, oedd fel Pennant yn bleidiol i gaethwasiaeth. Yn 1796 ceisiodd am sedd Sir Gaernarfon, ond curwyd ef gan Syr Robert Williams. Yn 1783 crewyd ef yn Farwn 1af Penrhyn yn Swydd Louth yn Iwerddon.
Roedd teulu Pennant yn berchen tiroedd helaeth yn Jamaica, ac yn 1765 priododd Ann Susannah Warburton, aeres teulu Warburton, oedd wedi etifeddu hanner stad y Penrhyn. Yn 1785 prynodd yr hanner arall o'r stad oddi wrth deulu Yonge. Datblygodd Chwarel y Penrhyn i fod y chwarel fwyaf yng Nghymru. Ef oedd y meistr tir cyntaf yng Nghymru i redeg y busnes llechi ei hun, yn hytrach na chymeryd rhent gan bartneriaethau o chwarelwyr. Yn 1798 agorodd Dramffordd Llandegai i gario llechi o’r chwarel i borthladd newydd Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Yn 1801 agorodd reilffordd i gymeryd lle'r dramffordd, Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, un o’r rheilffyrdd cynharaf.
Dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Enwyd merch Dawkins, Juliana, a'i gŵr fel cyd-etifeddion yr ystad ar yr amod eu bod yn cymryd y cyfenw Pennant. Yn ddiweddarach daeth gŵr Juliana yn Farwn Penrhyn fel Edward Gordon Douglas-Pennant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.