Roedd Richard Burton (10 Tachwedd 1925 – 5 Awst 1984) yn actor o Bontrhydyfen ger Port Talbot.
Ei enw bedydd oedd Richard Walter Jenkins; cymerodd yr enw "Burton" ar ôl ei athro Saesneg Philip H. Burton yn Ysgol Ramadeg Aberafan. Fe'i ganwyd ym Mhontrhydyfen. Roedd yn Gymro Cymraeg ac yn falch o'r iaith.
Richard Burton | |
---|---|
Ganwyd | Richard Walter Jenkins 10 Tachwedd 1925 Pontrhydyfen |
Bu farw | 5 Awst 1984 Céligny |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, dyddiadurwr, actor llwyfan, actor, cyfarwyddwr ffilm |
Taldra | 177 centimetr |
Tad | Richard Walter Jenkins |
Mam | Edith Mawd Thomas |
Priod | Elizabeth Taylor, Sybil Williams, Suzy Miller, Elizabeth Taylor, Sally Burton |
Plant | Jessica Burton, Kate Burton |
Perthnasau | Liza Todd, Maria Burton |
Gwobr/au | CBE, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am Actor Gorau mewn Sioe Gerdd, Golden Globes, Gwobr Grammy, Gwobr Tony Arbennig, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.richardburton.com/ |
llofnod | |
Actiodd ar y radio yn nrama Brad Saunders Lewis yn y ddwy iaith. Y cast oedd Emlyn Williams, Sian Phillips a Clifford Evans a'r cynhyrchydd oedd Emyr Humphreys.
Cyhoeddwyd bywgraffiad Cymraeg Richard Burton Seren Cymru gan Gethin Mathews yn 2002 gan Wasg Gomer.
Bu farw Burton yn Celigny, Genefa, y Swistir ar 5 Awst 1984.
Adrodd hefyd Jeff Wayne's Musical Version of The War of the Worlds (1978).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Richard Burton, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.