Siân Phillips: Actores a aned yn 1933

Actores yw y Fonesig Siân Phillips, DBE (Jane Elizabeth Ailwên Phillips) (ganwyd 14 Mai 1933).

Siân Phillips
Siân Phillips: Bywyd cynnar, Gyrfa, Gwobrau ac enwebiadau
GanwydJane Elizabeth Ailwên Phillips Edit this on Wikidata
14 Mai 1933 Edit this on Wikidata
Gwauncaegurwen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodRobin Sachs, Peter O'Toole Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Cafodd ei geni ar fferm Tŷ Mawr ger Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i Sally (née Thomas), a oedd yn athrawes, a David Phillips, cyn-weithiwr dur trodd yn blisman. Cymraeg oedd ei mamiaith; ac yng nghyfrol gyntaf ei hunangofiant Private Faces mae'n dweud ei bod wedi siarad Cymraeg drwy rhan fwyaf o'i phlentyndod, gan ddysgu Saesneg drwy wrando ar y radio.

Mynychodd Ysgol Ramadeg Pontardawe ac roedd yn cael ei hadnabod yno fel Jane. Ond roedd ei hathro Cymraeg, Eic Davies, yn ei galw gyda'r ffurf Gymraeg, Siân. Yn ddiweddarach fe astudiodd Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gan dderbyn gradd yn 1955.

Derbyniodd ysgoloriaeth i RADA yn Medi 1955, yr un flwyddyn a Diana Rigg a Glenda Jackson. Aeth ymlaen i ennill Medal Aur Bancroft am berfformiad yn Hedda Gabler a fe gynigiwyd gwaith iddi yn Hollywood ar ôl gadael RADA. Tra'n dal yn fyfyrwraig fe gynigiwyd tri chontract ffilm iddi, a fyddai'n n golygu gweithio am gyfnod hir yn yr Unol Daleithiau. Fe wrthododd hyn, gan fod yn well ganddi weithio ar lwyfan.

Gyrfa

Cyfnod cynnar ar lwyfan, radio a theledu

Dechreuodd Phillips actio yn broffesiynol yn 11 mlwydd ar wasanaeth yr Home Service ar BBC Radio yng Nghymru. Ei rhan cyntaf oedd fel cwrcath sinsir. A yr un oed fe enillodd ei gwobr gynta am ei pherfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol 1944 a gynhaliwyd yn Llandybie lle wnaeth hi a ffrind ysgol chwarae rhannau dau hen ddyn mewn cyflwyniad dramatig. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar deledu Prydeinig yn 17 oed a enillodd wobr actio Cymreig yn 18 oed. Rhwng 1953 a 1955 tra'n dal yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, fe weithiodd fel darllenwr newyddion a chyhoeddwr i'r BBC yng Nghymru. Roedd yn aelod o gwmni theatr sefydlog y BBC a cwmni Theatr Cenedlaethol Brenhinol a fe deithiodd Cymru yng nghynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru.

Chwaraeodd ran Masha yn y ddrama Three Sisters yn y Nottingham Playhouse yn 1958. Yn 1959 chwaraeodd y Dywysoges Siwan yn The King's Daughters - cyfieithiad o ddrama Siwan gan Saunders Lewis yng Nghlwb Theatr Hampstead a Katherine yn Taming of the Shrew yn theatr yr Oxford Playhouse yn 1960. Chwaraeodd Siwan eto yng nghynyrchiad y BBC o Siwan: The King's Daughter wrth ochr Peter O'Toole gyda Emyr Humphrys yn cynhyrchu. Fe'i ddarlledwyd ar BBC One (Cymru yn unig) ar 1 Mawrth 1960. O Hydref 1958 i Ebrill 1959 roedd hi'n gyflwynydd ar y rhaglen fisol Gwlad y Gân ar TWW Sianel 10 gyda'r bariton Ivor Emmanuel.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfannau Llundain yn 1957 pan ymddangosodd yng nrama Magda gan Hermann Sudermann ar gyfer RADA. Magda, drama am prif gantores opera, oedd ei llwyddiant mawr cyntaf yn Llundain. Cafodd y cynhyrchiad glod sylweddol a roedd yn gaffaeliad mawr i'w gyrfa, er ei fod hi dal yn fyfyrwraig ar y pryd, hi oedd y cyntaf ers Sarah Bernhardt i chwarae'r rhan.

Yn 1957 (mae rhai ffynonellau yn dweud 1959) perfformiodd Phillips y prif ran yn Hedda Gabler gan Ibsen. Mae nifer o ffynonellau yn ystyried hyn ei perfformiad cynta ar lwyfan yn Llundain ond roedd wedi ymddangos yn Magda cyn Hedda Gabler. Yn Medi 1958 roedd hi'n perfformio fel Margaret Muir in The Holiday gan John Hall yn Theatr Newydd Rhydychen .

Yn Mai 1958 perfformiodd Phillips fel Joan yn nrama Saint Joan gan George Bernard Shaw, yn Theatr Belgrade yn Coventry, oedd wedi agor chwe wythnos ynghynt, cynhyrchwyd gan Bryan Bailey. Fe wnaeth sylwebydd ddisgrifio ei pherfformiad: "Mae portread Sian Phillips o Joan yn herio cyfraith cyfartaleddau, oherwydd ar ôl gweld Siobhan McKenna yn nghynyrchiad yr Arts Theatr yn 1955, roeddwn yn credu ei fod yn amhosib weld perfformiad cystal o fewn hanner canrif. Fel y ferch Wyddelig, mae'r Gymraes yn berffaith... 'Nid yw'r ferch yn actio fel Joan - hi yw Joan.' Yn fyr, perffeithrwydd."

Chwaraeodd ran Julia yn fersiwn 1960-1961 o gynhyrchiad Royal Shakespeare Company o The Duchess of Malfi. Ei pherfformiadau i'r Royal Shakespeare Company oedd:

  • Julia yn The Duchess of Malfi: yn Theatr Goffa Shakespeare (Stratford, 30 Tachwedd 1960, noson agoriadol).
  • Julia yn The Duchess of Malfi: yn Theatr yr Aldwych (Llundain, 15 Rhagfyr 1960, noson agoriadol)
  • Bertha yn Ondine: yn Theatr yr Aldwych (Llundain, 12 Ionawr 1961, noson agoriadol)
  • Miss Havisham yn Great Expectations: i'r Royal Shakespeare Company (Stratford, 6 Rhagfyr 2005).

Cyfnod hwyrach ar ffilm a theledu

Mae ei gyrfa hir yn cynnwys nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu ond efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei rhan fel y dieflig Livia yn addasiad o nofel I Claudius gan Robert Graves (BBC2, 1976), a fe enillodd wobr Actores Gorau BAFTA am y rhan. Fe wnaeth nifer o ymddangosiadau ar y gyfres wreiddiol o sioe gwis Call My Bluff. Fe ymddangosodd gyferbyn ei gŵr ar-y-pryd Peter O'Toole a Richard Burton yn y ffilm Becket (1964); fel Ursula Mossbank yn y ffilm gerddorol Goodbye, Mr. Chips (1969), eto yn serennu gyda O'Toole; a gyferbyn a O'Toole yn Murphy's Way (1971); fel Emmeline Pankhurst yn y gyfres deledu fer Shoulder to Shoulder (1974); fel Lady Ann, gwraig anffyddlon y cymeriad George Smiley chwaraewyd gan Alec Guinness, yn y gyfres ddrama ysbïo Tinker, Tailor, Soldier, Spy (1979) ar BBC1 a Smiley's People (1982), addaswyd o nofelau John le Carré o'r un enw; yn Nijinsky (1980); a fel y frenhines Cassiopeia yn Clash of the Titans (1981).

Rhan boblogaidd arall oedd y Parchedig Fam Gaius Helen Mohiam yn ffilm Dune (1984) gan David Lynch a Charal o Ewoks: The Battle for Endor (1985). Fe ymddangosodd yn ngyfres 2 a 4 (1998 a 2000) o'r gyfres deledu o Ganada La Femme Nikita fel Adrian, sylfaenydd gwrthgiliedig y sefydliad gwrth-derfysgol pwerus Section One. Yn 2001, fe ymddangosodd yn Ballykissangel fel y iachäwr trwy ffydd Consuela Dunphy ym Mhennod 7 ('One Born Every Minute' neu 'Getting Better All the Time'). Ei ffilm ddiweddaraf yw The Gigolos (2006) gan Richard Bracewell, lle roedd yn chwarae Lady James. Yn 2010, fe ymddangosodd yn mhennod o New Tricks gyda'r teitl 'Coming out Ball' ac yn 2011 fe ymddangosodd ym mhumed cyfres y rhaglen deledu Lewis yn y bennod gyda'r teitl 'Wild Justice'.

Mae cydnabyddiaethau Phillips yn y West End yn cynnwys Marlene (lle roedd yn portreadu Marlene Dietrich), Pal Joey, Gigi a A Little Night Music. Fe ymddangosodd ar lwyfan yn America hefyd gyda Marlene.

Gwaith arall

Mae ei pherfformiadau i'r Theatr Cenedlaethol Brenhinol yn cynnwys:

  • Lady Britomart yn Major Barbara: Theatr Lyttelton Theatre (18 October 1982, noson agoriadol).
  • Madam Armfeldt un A Little Night Music: Theatr Olivier (18 September 1995, noson agoriadol).
  • Hope yn In Bed With Magritte (1 December 1995, noson agoriadol).

Chwaraeodd prif rhan yng nghomedi The Leopard in Autumn ar BBC Radio 4 rhwng 2001 a 2002.

Fe recordiodd llais cefndir i drac ar albwm Rufus Wainwright o 2007 Release the Stars, a fe ymddangosodd gydag e yn Theatr yr Old Vic yn Llundain ar 31 Mai/1 Mehefin 2007. Serenodd Phillips yng nghynyrchiad West End Llundain o Calendar Girls. Chwaraeodd Phillips gymeriad Juliet gyferbyn a pherfformiad Michael Byrne o Romeo yn Juliet and her Romeo yn yr Old Vic, Bryste o 10 Mawrth hyd 24 Ebrill 2010.

Roedd Phillips hefyd yn aelod blaenllaw o Social, Welsh and Sexy (SWS), y sefydliad cymdeithasol ar gyfer Cymry Llundain.

Gwobrau ac enwebiadau

Blwyddyn Gwobr Categori Gwaith enwebwyd Canlyniad Cyf
1969 Gwobr Golden Globe Actores Cynhaliol Gorau Goodbye, Mr. Chips (1969) Enwebwyd
1970 National Society of Film Critics Actores Cynhaliol Gorau Goodbye, Mr. Chips (1969) Enillodd
1976 Gwobr BAFTA Actores Orau I, Claudius & How Green Was My Valley Enillodd
1977 Cymdeithas Frenhinol Teledy Perfformiad Gorau I, Claudius Enillodd
1980 Gwobr Olivier Actores Orau mewn Sioe Gerdd Pal Joey Enwebwyd
1996 Gwobr Olivier Perfformiad Cynhaliol Gorau mewn Sioe Gerdd A Little Night Music Enwebwyd
1998 Gwobr Olivier Actores Orau mewn Sioe Gerdd Marlene Enwebwyd
1999 Gwobr Tony Actores Orau mewn Sioe Gerdd Marlene Enwebwyd
1999 Gwobr Ffilm & Theledu Ar-lein Actores Gwadd Gorau mewn Cyfres Cebl La Femme Nikita Enwebwyd
2001 BAFTA Cymru Gwobr Arbennig Siân Phillips Enillodd
2013 Olivier Award Perfformiad Cynhaliol Orau mewn Sioe Gerdd Cabaret Enwebwyd

Mae'n aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gymrawd er anrhydedd gyda sawl prifysgol yng Nghymru. Yn Mehefin 2000 derbyniodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a DBE am wasanaethau i ddrama yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2016. Yn 2001 fe'i gwobrwywyd â Gwobr Arbennig BAFTA Cymru. Yn Ionawr 2018 derbyniodd Wobr Cyfraniad Oes yng Ngwobrau Drama Glywedol y BBC.

Bywyd personol

Gŵr cyntaf Phillips oedd Don Roy, oedd ar y pryd yn fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru. Fe'i priodwyd yn 1956 ac ysgarwyd yn 1959.

Tra'n feichiog gyda'u plentyn cyntaf, fe briododd Peter O'Toole yn Rhagfyr 1959. Cafodd y cwpl ddau ferch: Kate, ganwyd 1960 a Patricia, ganwyd 1963. Mae Patricia yn gweithio ym myd y theatr, a mae Kate yn actores. Fe ysgarodd y cwpl yn 1979, a fe ysgrifennodd Phillips am y cyfnod cythryblus yma o'i bywyd yn ail gyfrol ei hunangofiant, Public Places.

Ei thrydydd gŵr oedd yr actor Robin Sachs, oedd yn 17 mlynedd yn iau na hi. Cychwynodd eu perthynas yn 1975 a fe'i priodwyd ar Noswyl Nadolig 1979, yn fuan ar ôl ysgaru o O'Toole. Fe ysgarodd y ddau yn 1991.

Mae'n hi'n noddwr i goleg Bird College of Dance, Music & Theatre Performance, yn Sidcup, Llundain Fwyaf a theatr Sherman Cymru yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant mewn dwy gyfrol - Private Faces yn 1999 a Public Places yn 2001.

Gwobr Siân Phillips

Sefydlwyd Gwobr Siân Phillips yn 2004. Enillodd Emyr Humphreys y wobr gyntaf am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru a dyluniwyd y tlws gan Ann Catrin Evans.

Gwaith

Ffilmiau

Teledu

Llyfryddiaeth

  • Private Faces (hunangofiant 1999)
  • Public Places (hunangofiant 2001)

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Siân Phillips Bywyd cynnarSiân Phillips GyrfaSiân Phillips Gwobrau ac enwebiadauSiân Phillips Bywyd personolSiân Phillips Gwobr Siân Phillips GwaithSiân Phillips CyfeiriadauSiân Phillips Dolenni allanolSiân Phillips14 Mai1933DBE

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Rhyw llawY Tywysog SiôrRyan DaviesLlŷr ForwenY we fyd-eangDiwrnod y LlyfrGogledd IwerddonKempston HardwickYstadegaethFfilmPengwinEmyr DanielRhyw rhefrolHarry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm)AserbaijanegRhyw geneuolWcráinComin WicimediaAwdurWikipedia6 AwstBig BoobsAnna VlasovaMarshall ClaxtonPatrick FairbairnCil-y-coed69 (safle rhyw)Trwyth30 TachweddDyn y Bysus EtoShowdown in Little TokyoRichard Bryn WilliamsFfisegCyfeiriad IPHwngariRhufainWoyzeck (drama)Y FaticanDinas SalfordBananaY rhyngrwydWiciMathemateg1724URLLleiandy LlanllŷrManon RhysOlewyddenCaergystenninAlan SugarTsunamiArwyddlun TsieineaiddSefydliad WikimediaUnol Daleithiau America19091949Cwmwl OortLuciano PavarottiUsenetMycenaeHydrefGruff RhysRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonIseldiregDic JonesSefydliad ConfuciusOrganau rhywLlanelliThe Nailbomber🡆 More