Rhif Cyfansawdd

Cyfanrif positif yw rhif cyfansawdd a ffurfir drwy luosi dau gyfanrif positif llai.

Mae ganddo hefyd o leiaf un rhannydd ar wahân iddo ef ei hun a'r rhif 1. Gan ddiystyru'r rhif 1 am eilaid, gellir dweud fod pob rhif dan haul naill ai'n rhif cysefin neu'n rhif cyfansawdd, ac felly gellir dilyn hyn drwy ddweud fod pob rhif nad yw'n rhif cysefin yn rhif cyfansawdd.

Rhif Cyfansawdd
Colofn chwith: rhifau cysefin
Colofn dde: rhifau cyfansawdd.

Er enghraifft, mae'r rhif 14 yn rhif cyfansawdd oherwydd mae'n lluoswm o ddau cyfanrif positif (dau rannydd), sef 2 a 7. Mae 2 a 3 yn enghreifftiau o gyfanrifau nad ydynt yn rhifau cyfansawdd oherwydd ni ellir eu rhannu (dim ond gyda nhw eu hunain neu'r rhif un).

Dyma restr o rifau cyfansawdd hyd at 150:

    4, 6, 8, 9, 10, 12, 14, 15, 16, 18, 20, 21, 22, 24, 25, 26, 27, 28, 30, 32, 33, 34, 35, 36, 38, 39, 40, 42, 44, 45, 46, 48, 49, 50, 51, 52, 54, 55, 56, 57, 58, 60, 62, 63, 64, 65, 66, 68, 69, 70, 72, 74, 75, 76, 77, 78, 80, 81, 82, 84, 85, 86, 87, 88, 90, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 98, 99, 100, 102, 104, 105, 106, 108, 110, 111, 112, 114, 115, 116, 117, 118, 119, 120, 121, 122, 123, 124, 125, 126, 128, 129, 130, 132, 133, 134, 135, 136, 138, 140, 141, 142, 143, 144, 145, 146, 147, 148, 150. (cyfres A002808 yn yr On-Line Encyclopedia of Integer Sequences (OEIS))
Rhif Cyfansawdd
Rhodenni Cuisenaire yn cael eu defnyddio i ddangos rhanyddion y cyfanrif positif 10.

Gellir disgrifio pob rhif cyfansawdd fel "y lluoswm o ddau neu ragor o rifau cysefin". Er enghraifft, gellir sgwennu'r rhif 299 fel 13 x 23, a gellir sgwennu'r rhif cyfansawdd 360 fel 23 × 32 × 5. Mae'r mae'r cynrychiolaeth yma'n unigryw hyd at drefn y ffactorau. Gelwir y ffaith hwn yn "ddamcaniaeth ffwndamental rhifyddeg".

Ceir sawl prawf cysefin i ddangos a yw rhif yn gysefin neu'n gyfansawdd heb orfod dangos ffactorau'r mewnbwn cyfansawdd.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Rhannydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Immanuel KantAnna VlasovaMette FrederiksenIn My Skin (cyfres deledu)CeredigionTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)Esyllt SearsGwladwriaeth IslamaiddYsgol Gyfun YstalyferaHydrefElipsoidWiciMarion HalfmannNational Football LeagueCaernarfonWiciadurGwamCerrynt trydanolAfon Taf (Sir Gaerfyrddin)Olwen ReesEl NiñoHafanInterstellarBad Man of Deadwood14 ChwefrorMinorca, LouisianaFideo ar alwBirth of The PearlGambloRhestr blodauAlexandria RileyGwrywaidddefnydd cyfansawddUTCAlldafliadNionynKatwoman XxxKrishna Prasad BhattaraiAbdullah II, brenin IorddonenDisturbiaCaerIeithoedd BrythonaiddPidynSystème universitaire de documentationChildren of DestinyGronyn isatomig1971Pafiliwn PontrhydfendigaidLlanw LlŷnHawlfraintDydd IauFfuglen llawn cyffroAndrea Chénier (opera)Siôr (sant)UpsilonAdloniantCaer Bentir y Penrhyn DuLlanfair PwllgwyngyllAlbert Evans-JonesBataliwn Amddiffynwyr yr IaithEglwys Sant Beuno, PenmorfaVladimir PutinMathemategyddDonusaComo Vai, Vai Bem?Owain Glyn Dŵr🡆 More