Gwobr a noddir yn annibynnol ar gyfer ffilmiau LHDT a gyflwynir yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes ydy'r Queer Palm.
Sefydlwyd y wobr yn 2010 gan y newyddiadurwr Franck Finance-Madureira sy'n trefnu'r digwyddiad yn flynyddol. Noddir y wobr gan Olivier Ducastel a Jacques Martineau, gwneuthurwyr y ffilmiau Jeanne and the Perfect Guy, The Adventures of Felix, Crustacés et Coquillages, a L'Arbre et la forêt.
Gwobrwyir ffilmiau am eu hymdriniaeth o themâu LHDT ac fe'u dewisir o'r ffilmiau a enwebir neu a gyflwynir yn y Detholiad Swyddogol, Un Certain Regard, Wythnos y Beirniaid Rhyngwladol a Phythefnos y Cyfarwyddwyr.
Blwyddyn | Ffilm fuddugol | Ffilm fer fuddugol | |
---|---|---|---|
2010 | Kaboom by Gregg Araki | Heb ei gydnabod | |
2011 | Beauty gan Oliver Hermanus | Heb ei gydnabod | |
2012 | Laurence Anyways gan Xavier Dolan | It's Not a Cowboy Movie gan Benjamin Parent | |
2013 | Stranger by the Lake gan Alain Guiraudie | Heb ei gydnabod | |
2014 | Pride by Matthew Warchus | Heb ei gydnabod |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Queer Palm, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.