Bardd wedi ei hyfforddi yn drwyadl yng nghelfyddyd cerdd dafod yw prydydd (benywaidd : prydyddes).
Yn yr Oesoedd Canol dim ond y beirdd gorau oedd â'r hawl i'r teitl, ond yn y cyfnod modern daeth yn air mwy cyffredinol yn golygu 'bardd' neu unrhyw un sy'n mydryddu.
Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr mewn cerdd a briodolir i Daliesin yn Llyfr Taliesin. Yno gwahanieithir yn amlwg rhwng prydyddion a beirdd cyffredin (fel y Glêr yn ddiweddarach). Yng nghyfnod Beirdd y Tywysogion roedd y prydydd yn fardd llys breintiedig gyda statws tebyg i'r pencerdd.
Mae Gramadegau'r Penceirddiaid yn pwysleisio goruchafiaeth a statws arbennig y prydydd ac yn amlygu nodweddion ei grefft :
Ychwanegir fod gan y prydydd ei ddisgyblion, a'i fod yn athro barddol.
Mae'r beirdd canoloesol a arddelai'r gair 'prydydd' yn ei henwau yn cynnwys,
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prydydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.