Pencerdd

Pencerdd oedd gradd arbennig yng Nghyfundrefn y Beirdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol.

Sylwer fod y gair Cymraeg Canol cerdd yn gallu golygu crefft yn gyffredinol, ond ystyr 'pencerdd' yw 'prif fardd,' sef bardd sy'n cael ei adnabod fel meistr ar ei grefft (ceir prifardd fel enw i ddisgrifio bardd yn ogystal, ond nid yw'n golygu'r un peth yn union).

Saif y pencerdd gyda'r bardd teulu ar binacl cyfundrefn y beirdd. Yn y Cyfreithiau Cymreig mae'r bardd teulu ynghlwm wrth osgordd llys y brenin ac yn un o swyddogion llys y brenin. Ond er fod y pencerdd yn swyddog yn y llys, roedd yn fath o swyddog gwladol. Roedd yn byw yn ei gartref ei hun ac yn mwynhau graddfa eang o ryddid. Byddai'n canu i un llys a brenin os dymunai ond roedd yn rhydd i ganu i frenhinoedd a thywysogion eraill yn ogystal.

Yn wahanol i'r bardd teulu hefyd, roedd y pencerdd yn athro barddol gyda'r hawl i gael disgyblion barddol.

Roedd bod yn bencerdd yn fraint arbennig. I'w hennill bu rhaid i'r ymgeisydd ennill cadair farddol mewn ymryson barddol gyda beirdd eraill.

Yr enghraifft gynharaf o bencerdd a wyddys yw Meilyr Brydydd, a ganai i Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. Roedd rhai o'i ddisgynyddion yn feirdd yn ogystal, ac mae'n ymddangos fod y grefft farddol yn un a etifeddwyd yn y teulu.

Llyfryddiaeth

  • Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (gol.), Beirdd a Thywysogion (Gwasg Prifysgol Cymru/Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1996)

Tags:

Cymraeg CanolPrifarddYr Oesoedd Canol yng Nghymru

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Baner yr Unol DaleithiauSafle Treftadaeth y BydY rhyngrwydGeorge WashingtonSystem atgenhedlu ddynolIfan Gruffydd (digrifwr)GwymonMons venerisGosford, De Cymru NewyddInter MilanBoda gwerniMantraThe Witches of BreastwickEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015Sir BenfroLluoswmAlcemiGaztelugatxeOperation SplitsvilleCentral Coast (New South Wales)Y CeltiaidBoynton Beach, FloridaGenetegEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999AradonBerfTrênGorchest Gwilym BevanMarie AntoinetteIndonesiaLa Flor - Episode 1TraethawdThrilling LoveIrene González HernándezCroatiaWilliam Jones (ieithegwr)Las Viudas De Los JuevesMacOSEisteddfodArachnidCala goegFfilm bornograffigDafydd IwanSkypeHeather JonesBelarwsHafanHwferTrais rhywiolThomas Gwynn JonesSafleoedd rhywTrearddurJava (iaith rhaglennu)Cors FochnoBlue Island, IllinoisLinda De MorrerDrwsSbaenLlanfair PwllgwyngyllHwngariAserbaijanegMuskegBhooka SherGeorge BakerMichelle ObamaSydney FCAfon NîlCinnamonAmerican Broadcasting CompanyRoger FedererAlpauCaras Argentinas🡆 More