Teclyn a ddefnyddir i dynnu llinell syth ac i fesur y llinell honno yw'r ffon fesur, y pren mesur, tâp mesur, riwler neu'r mesurydd.
Fe'i defnyddir yn aml o fewn geometreg, lluniadu technegol, peirianneg ac adeiladu. Fel arfer mae gan y ffon fesur farciau ar ei hymyl a elwir weithiau'n "raddfa" er mwyn mesur hyd llinell neu ddau bwynt sydd ar wahân.
Enghraifft o'r canlynol | categori o gynhyrchion |
---|---|
Math | metrological mechanism, stationery, offeryn mesur, straightedge, measuring tools & sensor |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hyd at y 1980au fe'i gwnaed o bren neu fetel, a gelwid y teclyn yn 'bren mesur'; yna daeth y teclyn plactig i'r farchnad, ond hyd yn oed yn 2018 mewn nifer o ysgolion, daliwyd i'w galw'n "bren mesur" neu weithiau'n "bren mesur plastig".
Mae hyd o 12 modfedd (30 cm) yn boblogaidd, hyd yn oed heddiw (2018), oherwydd fod ei faint yn hylaw, yn hawdd i'w gludo. Mewn ystafelloedd fel labordy, neu ddosbarth mathemateg, cedwid hefyd ffon fetr i fesur gwrthrychau mwy. Ceir ffyn 6 modfedd (15 cm) hefyd, gan y gellid eu cadw'n hwylus mewn poced neu gas pensiliau. Ar ddechrau'r 21g daeth mesuryddion laser i'r farchnad, i fesur pellter o wal i wal neu i darged milwrol ayb.
Ceir disgrifiadau o ffyn mesur yn llenyddiaeth yr henfyd, gan gynnwys y Beibl, law yn llaw, yn aml, gyda rhaff i fesur hyd hirach e.e. gan y pensaer.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pren mesur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.