Pensil (neu pensel) yw offeryn pren hir a chul gyda'i ganol wedi'i wneud o graffit er mwyn ysgrifennu a thynnu lluniau.
Caiff pensiliau eu defnyddio hyd heddiw gan artistiaid er mwyn tynnu braslun (neu sgets) neu lun dyfrlliw ar gynfas ac fe'u defnyddir hefyd er mwyn amlygu llun di-liw sy'n gallu cyfleu amryw o arlliwiau, cysgodion a phellter. Pwrpas cas allanol y pensil yw amddiffyn y graffit bregys y tu fewn iddo.
Wrth wneud ei waith, mae'r pensil yn gadael rhan ohono ar ôl, a'r gronynnau mân hyn ydy'r marc a welir ar y papur. Mae hyn yn hollow wahanol i beniau (e.e. pin ffelt) sy'n gadael llif o hylif neu jel yn hytrach na llwch mân ar y papur golau.
Math o garbon ydy graffit, a'r dyddiau hyn cymysgir clai gyda'r graffit, sy'n gadael olion llwyd neu ddu y gellir eu rhwbio o'r papur yn hawdd, pe bai angen. Gall wrthsefyll y rhan fwyaf o ffactorau eraill fel gwlybaniaeth, amser neu gemegolion. Mae pensiliau o siarcol tipyn yn brinach erbyn heddiw, ac fe'u defnyddir gan artistiaid yn bennaf. Mae'r defnydd o bensiliau graffit mewn ysgolion yn boblogaidd iawn oherwydd y ffactorau hyn, a chan nad ydynt yn difrodi dillad y plentyn. Mae pensiliau lliw hefyd yn boblogaidd mewn ysgolion ac ar gyfer artistiaid. O ychwanegu saim neu gwyr gyda'r graffit, ceir pensil meddalach, sy'n medru gadael ei ôl ar ddeunyddiau gloyw, llyfn fel gwydr neu blastig. Hoff fath Walt Disney oedd pensil saim. Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y pensiliau mecanyddol cyntaf mor bell yn ôl a'r 18g a chychwynwyd cofrestru patentau arnynt yn y 19g.
Ceir dealltwriaeth ledled y byd ynghylch sut i raddio pensil yn ôl ei feddalwch. Ystyr gwreiddiol "H" oedd Hardness, a "B" oedd blackness. Dewisiwyd hefyd y lythyren "F" - sydd yn y canol rhwng HB a H. Y meddalwch arferol, canolig ei liw a ddefnyddir yn aml yw HB.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pensil, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.