Ffilm Swedeg o Sweden yw Hon dansade en sommar (Swedeg; cyfieithiad Cymraeg Un Haf o Hapusrwydd), wedi'i chynhyrchu gan Arne Mattsson, ac wedi'i sylfaenu ar y nofel Sommardansen (Dawns yr Haf), a gyhoeddwyd yn 1949 gan Per Olof Ekström.
Dyma'r ffilm Swedeg gyntaf i dderbyn gwobr Yr Arth Aur yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Berlin. Cafodd hefyd ei henwebu am y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes yn 1952. Mae'r ffilm yn cael ei gofio am y noethni ynddi - a achosodd lot o ffys pan ddaeth allan.
Hon dansade en sommar Un Haf o Hapusrwydd | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan | Arne Mattsson |
Cynhyrchwyd gan | Lennart Landheim |
Sgript | Volodja Semitjov Olle Hellbom |
Seiliwyd ar | Sommardansen gan Per Olof Ekström |
Yn serennu | Ulla Jacobsson Folke Sundquist Edvin Adolphson John Elfström |
Cerddoriaeth gan | Sven Sköld |
Sinematograffi | Göran Strindberg |
Golygwyd gan | Lennart Wallén |
Stiwdio | Nordisk Tonefilm |
Dosbarthwyd gan | Nordisk Tonefilm |
Rhyddhawyd gan | 17 Rhagfyr 1951, Sweden |
Hyd y ffilm (amser) | 103 mumud |
Gwlad | Sweden |
Iaith | Swedeg |
Gyda ffilm arall, sef Sommaren med Monika ("Haf efo Monika", 1952), daeth ag enw i Sweden fel "prifddinas rhyw rhydd" y byd.
Ceir dwy olygfa rywiol yn y ffilm: golygfa o nofio'n noeth a golygfa garu lle dangoswyd bron noeth yr actores Ulla Jacobsson. Achosodd dipyn o gynnwrf hefyd oherwydd y neges gwrth-eglwysig a phortreadu offeiriad lleol fel y dyn drwg. Er ei fod wedi derbyn nifer o wobrau, cafodd y ffilm ei banio mewn sawl gwlad gan gynnwys Sbaen. Chafodd y ffim ddim mo'i lansio yn Unol Daleithiau America tan 1955.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hon dansade en sommar, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.