Y cyfnod hanesyddol a ddilynodd taniad yr arf niwclear cyntaf oedd oes yr atom neu yr oes atomig.
Ffrwydrodd y bom atom Trinity ar 16 Gorffennaf 1945 gan Fyddin yr Unol Daleithiau fel rhan o Brosiect Manhattan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd yr adwaith cadwynol niwclear ei dybio gan Leó Szilárd yn 1933, a dangoswyd y fath adwaith yn artiffisial am y tro cyntaf gyda'r adweithydd niwclear Chicago Pile-1 yn Rhagfyr 1942. Dangoswyd bodolaeth a phŵer technoleg niwclear i'r byd wedi i'r Unol Daleithiau ollwng bomiau atom ar Hiroshima a Nagasaki yn Awst 1945, gan ddod â therfyn i'r Ail Ryfel Byd a hebrwng cyfnod newydd i mewn parthed datblygiad technoleg ac ynni, y meddylfryd cymdeithasol-wleidyddol, a chysylltiadau rhyngwladol a rhyfela.
Hyrwyddwyd ynni niwclear fel y prif ddull o yrru cynnydd technolegol a darparu egni'r dyfodol, er i'r oes atomig hefyd codi bwganod rhyfel niwclear, amlhau niwclear, a bygythiad Cyd-ddinistr Sicr yn ystod y Rhyfel Oer. Rhybuddiodd gwyddonwyr y gall rhyfel niwclear neu ddamwain achosi angau a dinistr ar raddfa eang, yr hyn a elwir gaeaf niwclear, a bod arfau niwclear felly yn bygwth bodolaeth y ddynolryw ar y Ddaear.
Wrth i'r diwydiant ffynnu, yn 1973 rhagfynegodd Comisiwn Ynni Atomig yr Unol Daleithiau byddai mil o adweithyddion niwclear yn cynhyrchu trydan ar gyfer cartrefi a busnesau Americanaidd erbyn dechrau'r 21g. Er addewid "y breuddwyd niwclear", perai nifer o broblemau cymdeithasol gan dechnoleg niwclear, gan gynnwys y ras arfau niwclear, toddiadau atomfeydd, cael gwared ar wastraff niwclear, a glanhau a digomisiynu atomfeydd. Wedi 1973, gostyngodd orchmynion am adweithyddion o ganlyniad i lai o alw am drydan a chynnydd mewn costau'r diwydiant niwclear. Cafodd nifer o atomfeydd arfaethedig ar draws UDA eu diddymu.
Yn niwedd y 1970au a'r 1980au, cafodd ynni niwclear ei daro gan drafferthion economaidd yn ogystal â gwrthwynebiad gan y mudiad gwrth-niwclear. Daeth nifer i'w weld yn fodd peryglus o gynhyrchu pŵer, pryderon a gawsant eu gwaethygu gan ddamwain Three Mile Island yn 1979 a thrychineb Chernobyl yn 1986.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Oes yr atom, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.