Proses mewn ffiseg ydy dadfeiliad ymbelydrol pan fo niwclews atomig ansefydlog yr elfen gemegol yn colli neu'n rhyddhau egni drwy ïoneiddio gronynnau, hynny yw drwy daro atomau a bwrw electronau i ffwrdd ohonyn nhw.
Nid yw'r niwclews (wrth ddadfeilio) yn bwrw yn erbyn gronynnau eraill. Canlyniad y dadfeilio yw bod y fam atom cychwynnol yn trawsffurfio i fod yn atom o fath gwahanol (y "ferch"). Er enghraifft: mae'r fam-atom Carbon-14 yn taflu ymbelydredd ac yn trawsffurfio yn nitrogen-14, sef y ferch-atom. Yn ôl rheolau mecaneg cwantwm, ni allwn gyfrifo a rhagweld faint o amser y cymer i'r atom hwn - a phob atom arall - ddadfeilio. Ond gan fod cymaint o atomau yn dadfeilio ar yr un pryd, gallem fod yn eithaf hyderus fod y cyfrifiad yn eithaf agos i'w le.
Caiff ymbelydredd ei fesur mewn Becquerelau, Bq. Diffiniad o un Bq ydy un dadfeiliad pob eiliad. Gan fod llawer o atomau mewn sampl labordy, mae'r Bq yn fesur pitw bach iawn a gall fesur cyn lleied â GBq (gigabecquerel, 1 x 109 dadfeiliad yr eiliad) neu TBq (terabecquerel, 1 x 1012 dadfeiliad yr eiliad). Dull arall o fesur ymbelydredd ydy'r curie, Ci.
Mae cyfradd dadfeilio sampl ymbelydrol mewn cyfrannedd union â'r nifer o atomau ansefydlog sydd yn y sampl. Gellir darganfod y gyfradd drwy luosi'r nifer o atomau gyda'r cysonyn dadfeilio, λ. Mae gan y cysonyn hwn berthynas â hanner oes y sampl a ddiffinnir gan λ = ln2 / T½, lle mae ln2 yn logarithm naturiol dau (oddeutu 0.693), a T½ yw hanner oes y sampl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dadfeilio ymbelydrol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.