Ncuti Gatwa: Actwr Albanaidd, a anwyd yn Rwanda

Actor Rwandaidd-Albanaidd yw Mizero Ncuti Gatwa (/ˈʃuːti ˈɡætwɑː/ SHOO-tee GAT-wah; ganwyd 15 Hydref 1992).

Daeth i amlygrwydd fel Eric Effiong ar y gyfres gomedi-ddrama Sex Education ar Netflix, a enillodd iddo Wobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu a thri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau. Yn 2022, cyhoeddwyd Gatwa fel ymgnawdoliad newydd o gymeriad y Doctor ar y gyfres BBC Doctor Who, sy'n golygu mai ef yw'r actor du cyntaf i arwain y gyfres.

Ncuti Gatwa
Ncuti Gatwa: Bywyd cynnar, Gyrfa, Ffilmyddiaeth
GanwydMizero Ncuti Gatwa Edit this on Wikidata
15 Hydref 1992 Edit this on Wikidata
Kigali Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Conservatoire yr Alban
  • Boroughmuir High School
  • Dunfermline High School, Dunfermline Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Ganed Gatwa yn Nyarugenge, Kigali, Rwanda, ar 15 Hydref 1992. Mae ei dad, Tharcisse Gatwa, o Ardal Karongi yn Rwanda, yn newyddiadurwr gyda PhD mewn diwinyddiaeth.

Yn ddiweddarach dihangodd y teulu o Rwanda yn ystod hil-laddiad Rwanda yn 1994 gan ymgartrefu yn yr Alban. Buont yn byw yng Nghaeredin a Dunfermline. Mynychodd Gatwa Ysgol Uwchradd Boroughmuir ac Ysgol Uwchradd Dunfermline cyn symud i Glasgow i astudio yn y Royal Conservatoire of Scotland, gan raddio gyda BA mewn Actio yn 2013.

Gyrfa

Ar ôl graddio, cafodd Gatwa ei dderbyn ar gynllun actorion graddedig y Dundee Repertory Theatre yn Dundee, yr Alban lle bu'n perfformio mewn sawl cynhyrchiad gan gynnwys Victoria gan David Greig. Cafodd rôl fychan yn y comedi sefyllfa Bob Servant yn 2014 oedd wedi ei leoli a'i ffilmio yn Dundee.

Yn 2015, ymddangosodd mewn rôl gefnogol yn y gyfres fer Stonemouth, addasiad o nofel o'r un enw o 2012. Yr un flwyddyn, perfformiodd yng nghynhyrchiad Kneehigh Theatres o 946, a addaswyd o The Amazing Story of Adolphus Tips gan Michael Morpurgo. Roedd y stori yn adrodd hanes yr ymarferion ar gyfer glaniad D-Day yn Nyfnaint lle bu nifer o farwolaethau. Chwaraeodd Gatwa ran Demetrius yng nghynhyrchiad 2016 o A Midsummer Night's Dream yn theatr Glôb Shakespeare; a gyfarwyddwyd gan Emma Rice.

Ym mis Mai 2018, cafodd Gatwa ei gastio yng nghyfres ddrama gomedi Sex Education ar Netflix fel Eric Effiong. Rhyddhawyd y sioe yn 2019 a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid. Derbyniodd Gatwa ganmoliaeth am ei bortread o Eric gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, yn enwedig am y modd na chafodd ei gymeriad ei bortreadu fel ystrydeb o "gymeriad stoc o ffrind gorau du neu hoyw". Mae wedi ennill clod eang am y rôl, sy’n cynnwys ennill Gwobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu yn 2020, ac ennill tri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau, un yn 2020, 2021 a 2022 yn olynol.

Ar 8 Mai 2022, cyhoeddwyd bod Gatwa wedi’i gastio yn Doctor Who fel 15eg ymgnawdoliad o brif gymeriad y sioe, y Doctor. Cafodd Gatwa gafodd ei gastio ym mis Chwefror, ac ef fydd yr actor du cyntaf i chwarae'r cymeriad fel prif ran. Cyn hynny portreadwyd y 'Fugitive Doctor' gan y fenyw ddu Jo Martin mewn rhai penodau o gyfres 12 yn 2020. Ar ddiwedd 2023 darlledwyd tair pennod arbennig ar gyfer pen-blwydd 60 mlynedd y sioe, gyda David Tennant yn dychwelyd yn y rhan. Erbyn diwedd y drydedd bennod, cyflwynwyd Gatwa fel y Doctor newydd, gan ymrannu oddi wrth y Doctor blaenorol. Bydd yn parhau mewn pennod Nadolig cyn ymddangos mewn cyfres llawn.

Ffilmyddiaeth

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2019 Horrible Histories: The Movie – Rotten Romans Timidius
2021 The Last Letter from Your Lover Nick
2023 Barbie Artist Ken

Teledu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2014 Bob Servant Male Customer 1 pennod
2015 Stonemouth Dougie 2 pennod
2019–2023 Sex Education Eric Effiong Prif ran; 32 pennod
2023- Doctor Who Y Doctor Prif ran
2024 Masters of the Air 2il Lt. Robert Daniels 3 pennod

Gemau fideo

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2022 Grid Legends Valentin Manzi Llais a chipio symudiad

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Ncuti Gatwa Bywyd cynnarNcuti Gatwa GyrfaNcuti Gatwa FfilmyddiaethNcuti Gatwa CyfeiriadauNcuti Gatwa Dolenni allanolNcuti Gatwa15 Hydref1992BBCDoctor WhoGwyddor Seinegol RyngwladolNetflix

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

C.P.D. Dinas CaerdyddThe Disappointments RoomCwmwl OortJohn Ceiriog Hughes1800 yng NghymruTyddewiY DdaearBois y BlacbordURLRwsiaidHwngariMeddylfryd twfLlanarmon Dyffryn CeiriogOrganau rhywRhestr dyddiau'r flwyddynWcráinDinas SalfordDisturbiaCath365 DyddOvsunçuHenry KissingerRhodri MeilirAnnie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)Sex TapeHello Guru Prema KosameLleiandy1865 yng NghymruAserbaijanegRhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig ArleinMahanaAwdurJapanBeibl 1588George CookeLleuwen SteffanLaboratory ConditionsCoden fustlLlyfr Mawr y PlantDerbynnydd ar y topBamiyanCyfathrach Rywiol FronnolRhestr afonydd CymruOwain Glyn DŵrHTMLRichard Bryn WilliamsHindŵaethGareth BaleGwyddoniadurBBC CymruFfilm llawn cyffroPessachCerrynt trydanolY Tywysog SiôrRosa LuxemburgLlydawCyfarwyddwr ffilmMary SwanzyKempston HardwickAlldafliad benywCaergystenninSporting CPRhyw rhefrol🡆 More