Mae Mynydd Machen yn gopa mynydd a geir rhwng Castell-nedd a Chas-gwent; cyfeiriad grid ST223900.
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 177 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru, Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 362 metr |
Cyfesurynnau | 51.6036°N 3.1222°W |
Cod OS | ST2238390018 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 193.3 metr |
Rhiant gopa | Mynydd Machen |
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”. Uchder y copa o lefel y môr ydy 362 metr (1188 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Dywed un chwedl y bu Sant Pedr yn ymweld a Chymru. Ar ymddangosiad sydyn y Diafol, cododd nifer o feini mawrion a'u gosod yn ei ffedog er mwyn gallu eu cario yn rhwyddach. Erlidiwyd ef gan y Diafol, a bu'r ddau'n neidio o gopa un mynydd i'r llall. Wrth i'r Diafol lanio ar gopa Mynydd Machen, arhosodd er mwyn dal ei anadl a dechreuodd Sant Pedr daflu'r meini tuag ato, gan eu gadael ar wasgar o gwmpas y fro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mynydd Machen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.