Tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Bargod (hefyd Bargoed).
Saif ar lan afon Rhymni i'r gogledd o dref Caerffili.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 11,900 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 714.49 ha |
Cyfesurynnau | 51.685102°N 3.229659°W |
Cod SYG | W04000728 |
Cod OS | ST145995 |
Cod post | CF81 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hefin David (Llafur) |
AS/au | Wayne David (Llafur) |
Mae marchnad wythnosol yn y dre. Mae Caerdydd 23.3 km i ffwrdd o Bargoed ac mae Llundain yn 217.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 20.2 km i ffwrdd.
Yn wreiddiol roedd yn dref farchnad wledig, ond tyfodd i fod yn dref sylweddol yn dilyn agor pwll glo yn 1903. Caeodd y pwll glo yn ystod y 1980au, ac mae'r safle nawr yn gartref i barc gwledig.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).
Fe'i ceir yn gyntaf, wedi'i ysgrifennu, yn 1799, felly bathiad cymharol ddiweddar ydyw. Mae'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yn Aberbargoed (Aber Bargoed oedd ffurf 1578). Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn; fe'i gwelir gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf gynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bargod, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.