Tref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Rhisga (Saesneg: Risca).
Fe'i rhennir rhwng y ddwy gymuned Gorllewin Rhisga a Dwyrain Rhisga. Daw'r enw o'r Gymraeg Wenhwyseg "'r Is Ca'" am "Yr Is Cae".
Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.608°N 3.091°W |
Cod OS | ST245905 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au | Chris Evans (Llafur) |
Mae'n gorwedd ar ochr dde-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru ac roedd pwll glo yn y dref ar un adeg. Er ei bod yn un o drefi mwyaf y fwrdeistref sirol, mae ar ddechrau'r Cymoedd ac mae mynyddoedd gwyrdd o'i chwmpas. Mae mynyddoedd llawn coedwigoedd, gan gynnwys Mynydd Machen (1,188 troedfedd / 362m) a Thwmbarlwm i'r dwyrain (1,375 troedfedd / 419m).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Evans (Llafur).
Mae côr meibion llwyddiannus yn y dref a nifer o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar hyd y gamlas a thros y mynydd. Lleolir amgueddfa ddiwydiannol fach yn y dref a chlwb rygbi hefyd.
Roedd tafarn y "Welsh Oak" ar ochrau deheuol pentref Pont-y-Meistr, sydd bellach yn cael ei ystyried fel rhan o dref Rhisga, yn ymgullfan i'r Siartwyr, cyn iddynt orymdeithio i Gasnewydd.
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhisga, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.