Pentref eitha mawr yng nghymuned Bedwas, Tretomos a Machen, bwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Machen.
Saif tua 3 milltir i'r dwyrain o dref Caerffili ar ffordd yr A468. Mae Bedwas a Threthomas gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir Castell Machen, un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bedwas |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5988°N 3.1347°W |
Cod OS | ST215895 |
Cod post | CF83 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hefin David (Llafur) |
AS/au | Wayne David (Llafur) |
Saif y pentref wrth droed Mynydd Machen. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw Machen: Then & Now, sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).
Mae gan pentref Machen wreiddiau yn y diwydiant glo a haearn yn deillio o'r 17g. Er nid oes llawer o ôl y diwydiannau i'w gweld erbyn hyn, roedd y pentref yn leoliad i Efail Machen a sawl pwll glo. Mae yna lwybr hanesyddol leol sy'n ymweld a rhai o'r mannau yma. Yn gynnar yn ei hanes, cychwynodd Efail Machen ddefnyddio y dull Osmond o gynhyrchu haearn gyr.
Roedd un o orsafoedd rheilffordd Brycheiniog a Merthyr ym Machen, gyda changen i Gaerffili ar reilffordd Pontypridd, Caerffili a Chasnewydd, a gaewyd i deithwyr ym 1956. Heddiw mae yna gangen weddilliol o RB&M yn agored i wasanaethu chwarel Hanson Aggregates ym Machen.
Mae gan Machen dîm rygbi lleol. Maent yn chwarae yn Adran Pedwar y Dwyrain URC ac mae'r tîm yn gwisgo crysau glas gydag ochrau du, trowsus byr du a hosannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Lles Machen.
Mae yna ysgol cynradd ym Machen or enw Ysgol Gynradd Machen. Mae'r ysgol yn darparu ei addysg trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna hefyd ysgol Gristnogol annibynnol ym Machen o'r enw 'Wycliff Independent Christian School', sydd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Saesneg a thrwy weledigaeth Gristnogol unigryw.
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Machen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.