Mynydd yng nghadwyn y Mynydd Du, Powys, de-ddwyrain Cymru, yw Twyn Llech (Saesneg: Black Mountain).
Dyma'r unig fryn sydd â'i gopa'n gorwedd yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gyda'r mynydd yn cael ei rannu rhwng Powys a Swydd Henffordd. Ei uchder yw 703 m (2,306 tr).
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 703.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.0083°N 3.0847°W |
Cod OS | SO2552335390 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 155 metr |
Cyfnod daearegol | Defonaidd |
Rhiant gopa | Waun Fach |
Cadwyn fynydd | Mynydd Du |
Deunydd | Tywodfaen |
Rhed Clawdd Offa a'r llwybr pellter hir sy'n ei ddilyn ar hyd crib Twyn Llech, o'r de i'r gogledd, tra bo llwybr arall, mwy syrth, yn dringo o'r hostel ieuenctid yn Nyffryn Ewyas i'r gorllewin. Ni nodir y copa gan bwynt trigonometrig. Waun Fach yw'r bryn agosaf.
Er bod copaon uwch yn agos i'r mynydd yng Nghymru, Twyn Llech yw'r pwynt uchaf yn Lloegr i'r de o'r Yorkshire Dales.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Twyn Llech, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.