Pentref yng nghymuned Treharris, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Mynwent y Crynwyr (Saesneg: Quakers Yard).
Saif yn rhan ddeheuol y sir, i'r de o Treharris ac i'r gogledd-orllewin o Nelson, gerllaw ganol Afon Taf. Enw gwreiddiol y pentref oedd Rhyd y Grug. Erbyn tua 1650 roedd Bedyddwyr, Annibynwyr a Chrynwyr yn addoli yn ffermdy Berthlwyd, Pentwyn, ac yn fuan wedyn ffurfiodd y Crynwyr gynulleidfa ar wahan. Yn 1667, sefydlodd y Crynwyr eu mynwent eu hunanin ar dir Stad Pantannas. Lleolwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug yn y pentref am dros 30 mlynedd ond ym Medi 2010 symudodd yr ysgol i Aberfan, ac fe ddinistriwyd yr hen adeilad.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6603°N 3.3113°W |
Cod OS | ST093965 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).
Trefi
Merthyr Tudful · Treharris
Pentrefi
Abercannaid · Aberfan · Bedlinog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Heolgerrig · Y Faenor · Mynwent y Crynwyr · Pentrebach · Pontsticill · Pontygwaith · Trelewis · Troed-y-rhiw · Ynysowen
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mynwent y Crynwyr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.