Meurig Ebrill Morris Davies: Bardd (Meurig Ebrill)

Bardd o Gymru oedd Morris Davies (Meurig Ebrill) (Ebrill 1780—26 Medi 1861).

Morris Davies
Meurig Ebrill Morris Davies: Cefndir, Gyrfa, Teulu
FfugenwMeurig Ebrill Edit this on Wikidata
GanwydEbrill 1780 Edit this on Wikidata
Llanfachreth Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd14 Ebrill 1780 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1861 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Cefndir

Ganwyd Meurig Ebrill yn Boethuog, Llanfachreth, Meirionnydd, yn blentyn i Dafydd Morus a Catherine Robert ei wraig. Dydy union ddyddiad geni Meurig ddim ar gael ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Llanfachreth ar 14 Ebrill 1780; mae ei enw barddol yn awgrymu ei fod wedi ei eni yn yr un mis. Roedd pentrefi gwledig Sir Feirionnydd yn parhau i ddefnyddio'r arddull Cymreig o enwau tadol ar y pryd, yn hytrach na chyfenwau; felly Morus ap Dafydd ap Morus yw enw bedydd y bardd.

Gyrfa

Roedd Meurig Ebrill yn feistr saer coed yn ôl ei alwedigaeth. Mae ei waith fel saer ar gael mewn nifer o dai uchelwyr Sir Feirionnydd megis Nannau, Dolserau, Dolgun, Abergwynant, ac amryw eraill. Pan benderfynodd Syr Watkin Williams Wynne i ail adeiladu Plasty Glan Llyn, y Bala (safle Gwersyll yr Urdd bellach) Meurig Ebrill oedd prif saer coed y gwaith.

Bardd

Yn ystod dyddiau bore Meurig Ebrill roedd nifer fawr o feirdd yn ardal Dolgellau. Ymysg y rhai mwyaf amlwg oedd Dafydd Ionawr a Rhys Jones o'r Blaenau. Ymysg cyfoedion Meurig Ebrill oedd Ieuan Gwynedd, Bardd Meirion (John Athelstan Owen), Ieuan Awst, Dewi Wnion (David Thomas), Gwilym Aran (William Roberts), Bardd Mawddach (Robert Jones), Meurig Idris (Morris Jones) ac Idris Fychan.

Roedd Meurig yn honni ei fod wedi dysgu prydyddu cyn ei fod yn wyth mlwydd oed. Roedd hefyd yn honni bod Twm o'r Nant wedi cael dylanwad mawr arno fel bardd. Gwaith pob dydd Twm o'r Nant oedd cario coed. Gan fod Meurig yn saer coed roedd llwybrau'r ddau yn croesi'n aml. Mae'n debyg bod y ddau wedi cyfarfod am y tro cyntaf pan oedd Meurig yn gweithio fel prentis i saer yn y Bala pan oedd yn 13 oed.

Tua 1808 cafodd Meurig dröedigaeth efengylaidd wedi clywed Y Parch W. Hughes, Dinas Mawddwy yn pregethu yn y Brithdir. Ymunodd a'r annibynwyr yn y Brithdir cyn symud ei aelodaeth ymhen ychydig fisoedd i Hen Gapel, Dolgellau oedd newydd ei brynu ar gyfer yr Annibynwyr gan Hugh Pugh, Brithdir. Gwasanaethodd fel codwr canu'r capel. Cafodd ei sêl newydd dros grefydd effaith mawr ar ei gynnyrch fel bardd. Roedd nifer fawr o'i ganeuon ar bynciau crefyddol. Roedd yn nodedig am ei gerddi hir ar straeon Beiblaidd megis hanes Ahab a Jezebel ac am ei gerddi yn dwrdio pechodau a phechaduriaid megis ei Fflangell i Genfigen. Mae natur bregethwrol a moeswersol ei ganu crefyddol yn dueddol o darddu ar ei ddawn fel bardd. Mae'r ddawn honno i weld yn llawer hyfrytach pan mae'n gwneud gwaith syml y bardd gwlad ac yn canu am ddigwyddiadau bywyd pob dydd ei gymdeithas.

Derbyniwyd Meurig Ebrill i Orsedd y Beirdd, yn Eisteddfod Lerpwl 1839. Yn ogystal â chanu ei hun bu hefyd yn cynnal dosbarthiadau cerdd dafod. Ymysg ei ddisgyblion, roedd Gutun Ebrill, a ddaeth yn ddiweddarach yn Archdderwydd y Wladfa. Disgybl arall iddo oedd ei nai John Davies (Ioan Idris), bu hefyd dan ei hyfforddiant fel prentis saer .

Teulu

Ym 1799 priododd Meurig Ebrill ag Elinor Evan, merch Evan Lewis yn Eglwys S. Mair Dolgellau. Bu iddynt o leiaf saith o blant

Salwch, llyfryddiaeth, marwolaeth

Bu farw Elinor, gwraig Meurig Ebrill tua 1847. Ychydig wedyn aeth Meurig i'w wely yn sâl, a chododd o ddim oddi yno hyd derfyn saith mlynedd. Roedd y meddygon yn methu canfod dim byd corfforol o'i le efo fo i gyfrif am ei salwch, mae'n debyg mae iselder neu salwch meddwl ar ôl ei golled oedd yr achos.

Er mwyn ei annog i ail ymuno a'r byd awgrymodd ei weinidog, CadwalJones, Yr Hen Olygydd iddo wneud casgliad o'i gerddi ac i fynd ar daith i'w gwerthu. Cyhoeddwyd y Gyfrol Diliau Meirion ym 1853.. Dechreuodd Meurig Ebrill ar daith trwy Gymru a dinasoedd Lloegr oedd a nifer o Gymru yn byw ynddynt. Cymaint oedd llwyddiant y gwerthu aeth ati i gyhoeddi ail gyfrol Diliau Meirion Ail Ran a gyhoeddwyd yn Lerpwl ym 1854. Dychwelodd adref ym 1855 a chyhoeddodd llyfr yn cynnwys hanesion a cherddi am ei daith Hanes Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill, Gyda "Diliau Meirion," O Ddolgellau i Gaerlleon-Gawr, Birkenhead, Llynlleifiad, a Manceinion; a'i Ddychweliad Yn ol Drwy Siroedd A Threfydd Gogledd Cymru, Yn Y Flwyddyn 1854—55.

Wedi cyrraedd adref o'i daith dychwelodd i'w gwely, gan aros yna hyd ei farwolaeth ym 1861 yn 81 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys S Machreth, Llanfachreth.

Cyfeiriadau


Tags:

Meurig Ebrill Morris Davies CefndirMeurig Ebrill Morris Davies GyrfaMeurig Ebrill Morris Davies TeuluMeurig Ebrill Morris Davies Salwch, llyfryddiaeth, marwolaethMeurig Ebrill Morris Davies CyfeiriadauMeurig Ebrill Morris Davies1780186126 MediBarddEbrillGymru

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1384BlogDavid R. EdwardsTocharegDemolition ManDirwasgiad Mawr 2008-2012Weird WomanSovet Azərbaycanının 50 IlliyiThe Mask of ZorroIau (planed)MoralrfeecMetropolisRhestr blodauAnna VlasovaGwyddelegPiemonteBora BoraGwlad PwylEmyr WynCyrch Llif al-Aqsa746AgricolaDafydd IwanMacOSGweriniaeth Pobl TsieinaCatch Me If You CanAfon TynePidyn-y-gog AmericanaiddDe AffricaMuhammad1771797Y DrenewyddMcCall, IdahoCarecaBrasilCôr y CewriY gosb eithafUMCAAlban EilirJimmy WalesEyjafjallajökullThe JamAwyrennegThe Circus783CaerdyddDiana, Tywysoges CymruNapoleon I, ymerawdwr FfraincNoson o FarrugTŵr LlundainGmailJackman, MaineConwy (tref)Morfydd E. Owen8fed ganrifPasgDavid Ben-GurionCascading Style SheetsYr HenfydGogledd MacedoniaStockholmVin DieselLloegrDoc Penfro🡆 More