Prif Weinidog Simbabwe o 11 Chwefror 2009 hyd 11 Medi 2013 oedd Morgan Richard Tsvangirai (10 Mawrth 1952 – 14 Chwefror 2018).
Ef oedd Llywydd y Mudiad am Newid Democrataidd - Tsvangirai (Saesneg: Movement for Democratic Change – Tsvangirai (MDC-T)) a roedd yn ffigwr blaenllaw ymysg gwrthwynebwyr Arlywydd Robert Mugabe. Daeth Tsvangirai yn Brif Weinidog Simbabwe ar yr 11 Chwefror, 2009. Ar y 6 Mawrth, tra'n teithio i'w gartref gwledig ym Buhera, bu mewn damwain car a chafodd anafiadau nad oedd yn ddifrifol. Fodd bynnag, lladdwyd ei wraig Susan Tsvangirai yn y gwrthdrawiad â char arall.
Morgan Tsvangirai | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1952 Gutu |
Bu farw | 14 Chwefror 2018 Johannesburg |
Dinasyddiaeth | Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, De Rhodesia, Rhodesia, Zimbabwe Rhodesia, Simbabwe |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, amddiffynnwr hawliau dynol, undebwr llafur |
Swydd | Prif Weinidog Simbabwe, Member of the National Assembly of Zimbabwe |
Plaid Wleidyddol | Movement for Democratic Change – Tsvangirai |
Priod | Susan Tsvangirai |
llofnod | |
Tsvangirai oedd ymgeisydd y Mudiad am Newid Democrataidd yn etholiad arlywyddol dadleuol 2002, pan gollodd i Mugabe. Yn ddiweddarach, ymgeisiodd yn rownd gyntaf etholiad arlywyddol 2008 fel yr ymgeisydd y Mudiad am Newid Democrataidd - Tsvangirai, gan gipio 47.8% o'r bleidlais yn ôl canlyniadau swyddogol, gan ei osod o flaen Mugabe, a dderbyniodd 43.2% o'r bleidlais. Honnodd Tsvangirai iddo ennill mwyafrif gan ddweud y gellid fod wedi newid y canlyniadau yn ystod y mis rhwng yr etholiad a phan gyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol. Yn wreiddiol, bwriadodd Tsvangirai sefyll yr ail rownd yn erbyn Mugabe, ond tynnodd ei enw yn ôl ychydig cyn yr etholiad, gan ddadlau na fyddai etholiad yn rhydd nac yn deg yn sgîl y trais a welwyd a'r bygythiadau parhaus gan gefnogwyr y llywodraeth.
Ar 6 Chwefror 2018, cyhoeddwyd bod Tsvangirai yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn Ne Affrica. Dywedodd llefarydd yr MDC y dylai "disgwyl y gwaethaf". Bu farw wyth diwrnod yn ddiweddarach. Cyhoeddwyd ei farwolaeth gan Elias Mudzuri, uwch swyddog yn y blaid. Tybir mai achos ei farwolaeth oedd canser colorectaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Morgan Tsvangirai, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.