Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Moel Penamnen; cyfeiriad grid SH716483.
Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog ac i'r dwyrain o'r briffordd A470 a Bwlch y Gerddinen. Saif Llynnau Barlwyd i'r gorllewin o'r copa, ac mae ffîn Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd dros y copa. I'r gogledd-ddwyrain mae Cwm Penamnen yn ymestyn tua'r gogledd i gyfeiriad Dolwyddelan. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 490metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 623 metr |
Cyfesurynnau | 53.0166°N 3.9155°W |
Cod OS | SH716483 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 138 metr |
Rhiant gopa | Manod Mawr |
Cadwyn fynydd | Y Moelwynion |
Gellir ei ddringo o Fwlch y Gerddinen, dros gopa is Moel Farlwyd, neu o Gwm Penamnen. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”. Uchder y copa o lefel y môr ydy 623m (2044tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Moel Penamnen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.