Sant o Gymro oedd Melyd (bl.
6g efallai). Fe'i cysylltir â Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Melyd | |
---|---|
Eglwys Sant Melyd, Gallt Melyd. | |
Ganwyd | 6 g |
Man preswyl | Sir Ddinbych |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 9 Mai |
Ychydig iawn a wyddys amdano. Yr unig le sy'n gysylltiedig â fo heddiw yw plwyf a phentref Gallt Melyd yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae eglwys y plwyf yn gysegredig iddo ac yn dyddio o'r Oesoedd Canol, ond cafodd ei hadnewyddu'n sylweddol yn y 19g.
Ger y pentref ceir Ffynnon Felyd. Mae'r hynafiaethydd Edward Lhuyd yn ei nodi yn ei Parochiala.
Cynhelid gwylmabsant Melyd ar 9 Mai.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Melyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.