Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Kirkcaldy (Gaeleg yr Alban: Cair Chaladain; Sgoteg: Kirkcaudy).
Fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniol yr Alban, tua 18.6 milltir i'r gogledd o Gaeredin, a 44.4 milltir i'r de-orllewin o Dundee. Mae Caerdydd 515 km i ffwrdd o Kirkcaldy ac mae Llundain yn 549.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 18 km i ffwrdd.
Math | tref, large burgh |
---|---|
Poblogaeth | 48,108, 50,010 |
Gefeilldref/i | Ingolstadt |
Daearyddiaeth | |
Sir | Fife |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 18 ±1 km² |
Cyfesurynnau | 56.1107°N 3.1674°W |
Cod OS | NT275915 |
Cod post | KY1, KY2 |
Amcangyfrwyd poblogaeth o tua 48,630 in 2008, felly hon yw'r anheddiad mwyaf yn Fife. Mae Kirkcaldy wedi cael y llysenw "Lang Toun", o'r Sgoteg am dref hir, ers amser maith, gan gyfeirio at brif stryd cynnar y dref a oedd 0.9 milltir o hyd, fel y dynodwyd ar fapiau'r 16eg a'r 17g. Yn ddiweddarach, tyfodd yn 4 milltir o hyd wrth i'r anheddiadau gerllaw, sef Linktown, Pathhead, Sinclairtown a Gallatown, gael eu cysylltu.
Mae'r cofnod cyntaf o'r dref yn dyddio o 1075, pan roddodd Malcolm III sir Kirkcaladunt i eglwys Dunfermline (Abaty Dunfermline yn ddiweddarach). O dan Robert I, ym 1327 newidiodd statws Kirkcaldy o fod yn dreflen i fod yn burgh a oedd yn ddibynnol ar Abaty Dunfermline. Ym 1451, cafodd statws feu-ferme a roddodd iddo annibyniaeth rhannol oddi wrth yr abaty; derbyniodd annibyniaeth llawn drwy siarter brenhinol gan Siarl I ym 1644.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kirkcaldy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.