Actor John Mahoney

Roedd Charles Jonathan John Mahoney (20 Mehefin 1940 – 4 Chwefror 2018) yn actor Eingl-Americanaidd.

Mae'n cael ei gofio'n bennaf am chwarae rhan Martin Crane yn y comedi sefyllfa Americanaidd Frasier rhwng 1993 a 2004.

John Mahoney
Actor John Mahoney
GanwydCharles Jonathan Mahoney Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Blackpool Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 2018 Edit this on Wikidata
o cancr y pen a'r gwddf Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Mary's Catholic Academy
  • Prifysgol Quincy Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, actor llais, digrifwr, actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Clarence Derwent Awards Edit this on Wikidata
    Mae'r erthygl hon am yr actor Eingl-Americanaidd, am y beldroediwr Cymreig gweler John Mahoney

Cefndir

Ganwyd Mahoney yn Blackpool, Swydd Gaerhirfryn, ar 20 Mehefin 1940. Roedd ei deulu yn hanu o Fanceinion ond wedi symud i Blackpool fel faciwîs adeg yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg St Mary's, Blackpool am gyfnod cyn i'w deulu ddychwelyd i ardal Withington o Fanceinion wedi i'r rhyfel orffen. Wedi darfod ei addysg eilradd symudodd Mahoney i Illinois yn yr Unol Daleithiau, lle'r oedd ei chwaer eisoes wedi sefydlu wedi iddi briodi milwr Americanaidd yn ystod y Rhyfel. Wedi cyrraedd yr America aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Quincy, Illinois.

Gyrfa

Ymunodd Mahoney â byddin yr Unol Daleithiau, yn bennaf fel modd i sicrhau dinasyddiaeth Americanaidd. Fe'i gwnaed yn ddinesydd ym 1959. Bu'n byw yn Macomb, Illinois, gan ennill ei damaid yn dysgu Saesneg ym Mhrifysgol Western Illinois yn y 1970au cynnar, cyn ymgartrefu yn Forest Park, Illinois, ac wedi hynny yn Oak Park, Illinois. Bu'n olygydd cyfnodolyn meddygol trwy lawer o'r ddegawd.

Gyrfa fel actor

Dechreuodd actio'n broffesiynol ym 1977 gan ymuno â chwmni Steppenwolf Theatre. Enillodd Wobr Clarence Derwent am yr Actor Theatr Newydd Mwyaf Addawol am ei ran yn y ddrama Orphans gan Lyle Kessler. Enillodd wobr Tony ar gyfer yr Actor Nodwedd Gorau am ei berfformiad Broadway yn The House of Blue Leaves gan John Guare.

Ei rôl ffilm fawr gyntaf oedd yn Tin Men ym 1987. Bu wedyn mewn nifer o ffilmiau eraill gan gynnwys Eight Men Out, Say Anything..., In the Line of Fire, Reality Bites, a The American President. Ymddangosodd mewn dau o ffilmiau'r brodyr Coen, Barton Fink a The Hudsucker Proxy.

Frasier

Ymddangosodd Mahoney yn y gyfres comedi sefyllfa Frasier o'i bennod gyntaf ym 1993 hyd y bennod olaf yn 2004. Roedd yn chwarae rhan Martin Crane, cyn-filwr a chyn ditectif heddlu wedi ymddeol, a thad y brif gymeriad Frasier Crane a'i frawd Niles. Derbyniodd ddau enwebiad Emmy a ddau enwebiad Golden Globe am chwarae'r rhan.

Marwolaeth

Bu farw Mahoney ar 4 Chwefror 2018 tra dan ofal hosbis yn Chicago, yn 77 mlwydd oed.

Ffilmyddiaeth

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1982 Mission Hill
1985 Code of Silence Prowler Representative
1986 The Manhattan Project Lt. Col. Conroy
Streets of Gold Linnehan
1987 Suspect Judge Matthew Bishop Helms
Tin Men Moe Adams
Moonstruck Perry
1988 Frantic Williams, U.S. Embassy Official
Betrayed Shorty
Eight Men Out William 'Kid' Gleason
1989 Say Anything... James Court
1990 Love Hurts Boomer
1990 The Russia House Brady
1990 The Image Irv Mickelson
1991 Barton Fink W. P. Mayhew
1992 Article 99 Dr. Henry Dreyfoos
1993 In the Line of Fire Sam Campagna
1993 Striking Distance Capt. Vince Hardy
1994 A Hard Rain Ross Stewart Short film
1994 Reality Bites Grant Gubler
1994 The Hudsucker Proxy Chief
1995 The American President Leo Solomon
1996 Primal Fear Shaughnessy
1996 She's the One Mr. Fitzpatrick
1996 Mariette in Ecstasy Dr. Claude Baptiste
1998 Antz Grebs Voice
1999 The Iron Giant General Kenneth Rogard
2000 The Broken Hearts Club: A Romantic Comedy Jack
2001 Almost Salinas Max Harris
2001 Atlantis: The Lost Empire Preston B. Whitmore Voice
2003 Atlantis: Milo's Return Whitmore Voice
2005 Kronk's New Groove Papi Voice
2007 Dan in Real Life Poppy
2010 Flipped Chet Duncan

Teledu

Blwyddyn Teitl Rôl
1982 Chicago Story Lt. Roselli
1985 Lady Blue Capt. Flynn
1986 Trapped in Silence Doctor Winslow
1987 Saturday Night Live Fast Eddie Felson / Paul Newman
1987 American Playhouse Artie Shaughnessy
1988 Favorite Son Lou Brenner
1990 H.E.L.P. Chief Patrick Meacham
1992 The Human Factor Dr. Alec McMurtry
1992 The Water Engine Mason Gross
1992 Screenplay Walter Partin
1992 Cheers Sy Flembeck
1992 Unnatural Pursuits Paddy Quinn
1993–2004 Frasier Martin Crane
Biography Narrator
1996 3rd Rock from the Sun Dr. Leonard Hamlin
1997 Tracey Takes On... Jeffrey Ayliss
1998 Nothing Sacred Vince Reyneaux
2000 Becker Father Joe D'Andrea
2000 Teacher's Pet Narrator / Tim Tim Tim (voice)
2003 Gary the Rat Steele (voice)
2005 Fathers and Sons Gene
2006 ER Bennett Cray
2007 Mobsters Narrator
2007 The Simpsons Dr. Robert Terwilliger, Sr. (voice)
2009 In Treatment Walter Barnett
2009, 2010 Burn Notice Management
2010 $#*! My Dad Says Lt. Col. Wally Durham
2011, 2014 Hot in Cleveland Roy
2015 Foyle's War Andrew Del Mar

Cyfeiriadau

Tags:

Actor John Mahoney CefndirActor John Mahoney GyrfaActor John Mahoney Gyrfa fel actorActor John Mahoney MarwolaethActor John Mahoney FfilmyddiaethActor John Mahoney TeleduActor John Mahoney CyfeiriadauActor John Mahoney194020 Mehefin20184 Chwefror

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

NuukAgnes AuffingerMacOSJean JaurèsYnysoedd CookCelia ImrieBettie Page Reveals AllFideo ar alwDefiance County, OhioEdward BainesArian Hai Toh Mêl HaiWarsawCarlwmNewton County, ArkansasDouglas County, NebraskaDydd Iau DyrchafaelPrairie County, ArkansasRwsiaArabiaidThomas County, NebraskaKnox County, OhioWhatsAppMulfranAfon PripyatMahoning County, OhioCairoSiôn CornCombat WombatSimon BowerMary BarbourLloegrAshburn, VirginiaCarlos TévezWiciTotalitariaethEtta JamesByddin Rhyddid CymruBaltimore, MarylandCastell Carreg CennenMiller County, ArkansasCeri Rhys MatthewsCaltrainRoger Adams1680R. H. RobertsBurt County, NebraskaIndonesegGeorge NewnesEnaidBukkakeJohn ArnoldJason AlexanderGeni'r IesuPennsylvania1581Belmont County, OhioNeram Nadi Kadu AkalidiEnrique Peña NietoHappiness RunsSomething in The WaterCyfunrywioldebCanolrifInternational Standard Name IdentifierStreic Newyn Wyddelig 1981Peredur ap GwyneddLucas County, IowaSwahiliTrumbull County, OhioRay AlanOpera🡆 More