Roedd Syr James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig (25 Tachwedd 1790 - 10 Hydref 1861) yn dirfeddiannwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin ar ddau achlysur rhwng 1831 a 1832 ac wedyn rhwng 1835 a 1837
James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig | |
---|---|
Ganwyd | 25 Tachwedd 1790 Sir Gaerfyrddin |
Bu farw | 10 Hydref 1861 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | Aelod Seneddol, y Deyrnas Unedig, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Sir James Hamlyn-Williams, 2nd Baronet |
Mam | Diana Anne Whitaker |
Priod | Lady Mary Fortescue |
Plant | Mary Eleanor Hamlyn-Williams, Susan Hester Hamlyn-Williams, Edwina Augusta Williams |
Ganwyd Syr James yn fab hynaf i Syr James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig, a Dianne Anna (née Whittaker) ei wraig; merch Abraham Whittaker, marsiandiwr o Stratford, Essex.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Caerwynt rhwng 1802 a 1806.
Ym 1823 priododd y Ledi Mary Fortescue, Merch Hugh Fortescue, Iarll Cyntaf Fortiscue; bu iddynt tair merch.
Gwasanaethodd fel milwr yng Nghatrawd y 7fed Hwsâr rhwng 1810 a 1823 gan wasanaethu fel is gapten o 1810 i 1813, Capten o 1813 i 1821 ac Uwchgapten o 1821 hyd ei ymddeoliad o'r fyddin sefydlog ym 1823.
Bu'n ymladd yn Rhyfel Iberia gan gael ei grybwyll mewn cadlythyrau am ei wasanaeth ym mrwydrau Orthes, Barcelona a Toulouse.
Ym 1829 etifeddodd barwnigaeth ac ystâd ei dad, gan ymgymryd â dyletswyddau tirfeddiannwr bonheddig.
Gwasanaethodd fel Cyrnol Milisia Swydd Dyfnaint, Dirprwy Raglaw Dyfnaint ac fel Uchel Siryf Sir Caerfyrddin ym 1848
Safodd etholiad ym 1831 yn enw'r gleision sef cefnogwyr y Chwigiaid yng ngorllewin Cymru. Bu'n ymgyrchu o blaid diwygio'r etholfraint, am gael gwared â'r dreth ar frag, sebon a chanhwyllau, am wrthwynebu caethwasanaeth ac am economi rhydd. Bu'n canfasio ym mhell cyn i'r etholiad cael ei alw'n swyddogol ac, o weld y tebygrwydd o gael ei drechu penderfynodd deiliad y sedd, George Rice-Trevor, i beidio ail sefyll, gan ganiatáu i Hamlyn-Williams cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad.
Wedi pasio'r Ddeddf Diwygio Mawr ym 1832 rhoddwyd ail sedd seneddol i Sir Gaerfyrddin, ac roedd Hamlyn-Williams yn sicr y byddai o fel ymgeisydd y gleision a Rice-Trevor fel ymgeisydd y cochion (cefnogwyr y Torïaid) yn rhannu'r ddwy sedd yn ddiwrthwynebiad; ond fe sicrhaodd Rice-Trevor bod ymgeisydd Chwig swyddogol yn sefyll yr etholiad hefyd sef Edward Hamlyn Adams a gan hynny daeth Hamlyn-Williams yn drydydd a cholli ei sedd.
Yn etholiad 1835 sicrhaodd cefnogaeth Rice-Trevor a'r Blaid Ryddfrydol i sefyll fel ymgeisydd swyddogol ar ran y Rhyddfrydwyr a llwyddodd i gipio'r ail safle ac ennill yr ail sedd, ond collodd cefnogaeth Rice-Trevor eto am gefnogi diwygio bellach ar yr etholfraint a chollodd pleidleiswyr rhyddfrydol oedd yn rhydd o ddylanwad yr ystadau trwy beidio a mynd yn ddigon pell yn ei gefnogaeth i ddiwygio, a chollodd ei sedd eto ym 1837.
Penderfynodd beidio sefyll eto.
Bu farw yn ei gartref yn Clovelly ym Mis Hydref 1861 yn 70 mlwydd oed. Gan nad oedd ganddo fab i etifeddu'r teitl bu farw'r farwnigaeth gydag ef.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: George Rice Trevor | Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1831 – 1832 | Olynydd: Edward Hamlyn Adams |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Edward Hamlyn Adams | Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1835 – 1837 | Olynydd: John Jones, Ystrad |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig | Barwnigaeth Hamlyn-Williams 1829 – 1861 | Olynydd: difodiant |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.