Edward Hamlyn Adams: Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin

Roedd Edward Hamlyn Adams (30 Ebrill 1777 – 30 Mai 1842) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Chwig Gymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin

Edward Hamlyn Adams
Edward Hamlyn Adams: Cefndir, Gyrfa gyhoeddus, Marwolaeth
Ganwyd30 Ebrill 1777 Edit this on Wikidata
Jamaica Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1842 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cefndir

Ganwyd Adams yn Jamaica, yn fab i William Adams, ac Elizabeth Anne, ei ail wraig a merch y Parch. Thomas Coxeter. Roedd teulu Adam wedi mudo i Jamaica o Gymru yn y 17g.

Ym 1796 priododd Amelia Sophia, merch hynaf Captain John MacPherson, UDA (bu hi farw ym 1831). Bu iddynt 6 o blant 4 merch a 2 fab. Trwy ei ferch, Matilda Lee Abadam, roedd yn dad-cu i'r awduron Vernon Lee ac Eugene Lee-Hamilton. Roedd yn tad-cu tadol i'r ffeminist a swffragét amlwg Alice Abadam. Yn ôl Vernon Lee roedd ei thad cu yn extremely doctrinaire and moral, an ardent Voltairian, who spent much of his time disputing with the local parsons and refusing to pay tithes.

Gyrfa gyhoeddus

Ar ddiwedd rhyfelodd Napoleon penderfynodd ymddeol i wledydd Prydain, gan fyw yn Llundain a Chaerfaddon am gyfnod cyn prynu Neuadd Midleton gan ysgutorion ewyllys Syr William Paxton ym 1824. Roedd Adams a'i ystâd yn ffocws ar gyfer aflonyddwch yn ystod helyntion Beca 1839-43, ac ymosodwyd ar dafarn yr Arglwydd Nelson ym Mhorth-y-rhyd yr oeddent yn berchen arnynt ym 1843.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1831 ac fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin rhwng 1832 a 1835.. Newidiodd ei fab hynaf a'i etifedd Edward ei gyfenw i ab Adda / Abadam, bu ef hefyd yn Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin am dymor 1855/56.

Marwolaeth

Bu farw yn Neuadd Middleton yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llanarthne. Gosodwyd plac coffa iddo, a gynlluniwyd gan E. Gaffin, ar fur yr Eglwys ym 1843.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Sedd newydd
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18321835
Olynydd:
James Hamlyn-Williams

Tags:

Edward Hamlyn Adams CefndirEdward Hamlyn Adams Gyrfa gyhoeddusEdward Hamlyn Adams MarwolaethEdward Hamlyn Adams Gweler hefydEdward Hamlyn Adams CyfeiriadauEdward Hamlyn Adams1777184230 Ebrill30 MaiAelod SeneddolSir Gaerfyrddin (etholaeth seneddol)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

PenbedwY Nod CyfrinTitw tomos lasWiciIslamPARNSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanHafanSali MaliGaynor Morgan ReesRobbie WilliamsValentine PenroseLori felynresogTomos DafyddEpilepsiBuddug (Boudica)Clement AttleeShe Learned About SailorsMoanaGorsaf reilffordd LeucharsLZ 129 HindenburgJohn InglebyDoler yr Unol DaleithiauRhosan ar WyY Brenin ArthurJackman, MaineHen Wlad fy NhadauBogotáJonathan Edwards (gwleidydd)Maria Anna o SbaenIeithoedd IranaiddPanda MawrCwchJapanegIRCWicidestunPussy RiotUnol Daleithiau AmericaEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigWiciadurLlyffantOasisFunny PeopleDeuethylstilbestrolLouis IX, brenin FfraincNewcastle upon TyneYr Ail Ryfel BydMeddIbn Saud, brenin Sawdi ArabiaProblemosAnuMET-ArtBora BoraAfon TyneHebog tramorAnna VlasovaBalŵn ysgafnach nag aerBethan Rhys RobertsIau (planed)Winslow Township, New JerseySafleoedd rhywFort Lee, New JerseyHypnerotomachia PoliphiliBlog🡆 More