Uchelwr o Went oedd Ifor ap Llywelyn a adwaenir yn well fel Ifor Hael (fl.
c. 1320 - 1360/1380). Roedd yn gyfaill a phrif noddwr y bardd enwog Dafydd ap Gwilym. Daeth i gynrhychioli delfryd nawdd yng ngolwg Beirdd yr Uchelwyr a beirdd Cymru ar eu hôl. Mae'r epithet 'Hael' yn adlais bwriadol o'r 'Tri Hael' a geir yn nhestunau Trioedd Ynys Prydain.
Ychydig o ffeithiau cadarn sydd gennym amdano. Cedwir ei ach fel Ifor ap Llywelyn ab Ifor ap Bledri ap Cadifor Fawr, arglwydd Blaen-cuch yn Nyfed. Priododd ei dad, Llywelyn, Angharad ferch Morgan ap Maredudd o Dredegar, un o ddisgynyddion Rhys ap Tewdwr, gan symud i fyw yng Ngwent pan etifeddodd ei wraig diroedd Morgan. Mae cyfeiriadau mewn dwy ddogfen yn dangod i Angharad gael ei geni naill ai ym 1293 neu 1299, sy'n awgrymu i Ifor gael ei eni tua 1315-20.
Trigai Ifor ym mhlas Gwernyclepa ger Basaleg yng Ngwent, tua milltir i'r de o'r pentref presennol lle cadwai groeso cynnes ar ei aelwyd i'r beirdd. Ceir sawl cyfeiriad at lys Ifor Hael yng nghanu Dafydd ap Gwilym. Credir i'r bardd ganu iddo yn y cyfnod 1345-80. Mae un o'i gerddi yn gywydd mawl i lys Ifor ym Masaleg sy'n cynnwys y llinellau:
Ymhlith cerddi gorau Dafydd ap Gwilym yw ei farwnadau i Ifor a'i wraig Nest ynghyd, ac i Angharad. Dyma englyn agoriadol ei farwnad i Ifor a Nest:
Yn y 18g a'r 19g daeth 'Llys Ifor Hael' yn destun poblogaidd gan y beirdd, fel arfer fel myfyrdod pruddglwyf dros yr adfeilion fel symbol o'r fyrhoedledd bywyd a'r gogoniant a fu. Un o gerddi mwyaf adnabyddus Evan Evans (Ieuan Fardd), er enghraifft, yw'r gadwyn englynion 'Llys Ifor Hael' a gyfansoddwyd pan ymwelodd ag adfeilion llys Ifor ap Llywelyn ym Masaleg ym 1779 yng nghwmni Iolo Morganwg. Canodd sawl bardd arall ar y pwnc, yn cynnwys Ieuan Glan Geirionydd.
Yn 2008, agorwyd yr ail ysgol gynradd Gymraeg yn ninas Casnewydd a'i henwi yn Ysgol Ifor Hael er anrhydedd i'r noddwr canoloesol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol yng Ngorffennaf 2009.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ifor ap Llywelyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.